Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861, a gynhaliwyd yn nhref Aberdâr ym Morgannwg, oedd y gyntaf yn y gyfres o eisteddfodau cenedlaethol blynyddol yng Nghymru, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd bellach yn ganolog i'r diwylliant Cymraeg.
Deilliodd yr eisteddfod hon o gyfarfod yn Eisteddfod Dinbych 1860 i ystyried argymhellion gan Clwydfardd a Glan Alun i sefydlu eisteddfod flynyddol ar gyfer Cymru gyfan, yn y Gogledd a'r De yn eu tro.[1] Daeth y gyfres flynyddol a gychwynodd ag Eisteddfod Aberdâr i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868, ond yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914 a 1940.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Melville Richards, 'Eisteddfodau y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968), tud. 37.