Cefn Rhigos

Oddi ar Wicipedia
Cefn Rhigos
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7508°N 3.5728°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan yn Rhondda Cynon Taf yw Cefn Rhigos, a leolir rhwng Pontneddfechan a Rhigos yng ngogledd y sir, tua 8 milltir i'r gorllewin o Aberdâr. Saif ar ffordd wledig i'r de o'r briffordd A465. Mae'n rhan o gymuned Rhigos.

Capel Bethel, Cefn Rhigos

Cefn Rhigos yw pentref mwyaf gorllewinol Cwm Cynon. Mae'n gorwedd tua hanner milltir o'r ffin sirol rhwng Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot. I'r gogledd, dros y cwm, ceir bryniau'r Fforest Fawr ac i'r de ceir cronfa dŵr Llyn Fawr yng nghysgod Craig-y-llyn.


Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.