Fforest Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ucheldir o fryniau moel a rhosdir eang yn ne-ddwyrain Cymru yw'r Fforest Fawr. Gorwedd y rhan fwyaf o'r ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rhwng y Mynydd Du i'r gorllewin a Bannau Brycheiniog i'r dwyrain.

Er ei bod yn ardal o rosdir agored heddiw, bu'n llawer mwy coediog yn y gorffennol, ond nid dyna ystyr 'fforest' yn yr enw. Tir wedi'i ddynodi ar gyfer hela oedd 'fforest' yn yr Oesoedd Canol, gyda'r hawl i hela anifeiliaid yno wedi'i chyfyngu i'r arglwydd lleol (gweler hefyd Fforest Maesyfed). Bernard de Neufmarche, arglwydd Normanaidd Brycheiniog, a sefydlodd y Fforest ddechrau'r 12g. Yn y 13g ychwanegwyd darn arall o ucheldir, i'r de-orllewin o Bontsenni, a galwyd hwnnw y Fforest Fach a'r llall y Fforest Fawr i wahaniaethu rhyngddynt.[1]

Sgwd yr Eira

Gorwedd y Fforest Fawr yn ne-orllewin Powys rhwng Bannau Brycheiniog a'r Mynydd Du, gyda rhan uchaf dyffryn Wysg i'r gogledd yn gorwedd rhyngddi â Mynydd Epynt. I'r de ceir cymoedd hir a ffurfiwyd gan afonydd fel Nedd a Mellte sy'n arwain i lawr i gymoedd a dyffrynoedd Morgannwg. Ceir rhai o'r rhaeadrau gorau yn Ne Cymru yn y cymoedd hyn, er enghraifft rhaeadr 27 metr Sgwd yr Eira ar afon Hepste, ger Ystradfellte.

Lleolir ogofâu byd-enwog Dan yr Ogof yng nghongl de-orllewinol y Fforest Fawr, ger pentref Craig-y-nos. I'r gorllewin o'r pentref hwnnw Ogof Ffynnon Ddu: gyda dyfnder o 308m a thua 50 km o led mae hi'n un o'r ogofâu dyfnaf a hwyaf ym Mhrydain.

Croesir y Fforest Fawr gan ddwy ffordd fawr, sef yr A4067 rhwng Ystradgynlais a Pontsenni, a'r draffordd A470 rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu.

Copaon[golygu | golygu cod y dudalen]

Fan Fawr, o Fan Llia

Llynnoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Terry Marsh, The Mountains of Wales (Llundain, 1981).