Mynydd Epynt
Math | ucheldir ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1167°N 3.5°W ![]() |
![]() | |
Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne Powys yw Mynydd Epynt (anghywir yw'r amrywiad Eppynt a geir weithiau); cyfeiriad grid SN961464. Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd Brycheiniog a adnabyddid fel Cantref Selyf yn yr Oesoedd Canol.
Mae'r enw'n ddiddorol. Daw o'r gair Brythoneg/Cymraeg Cynnar *epo-s 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol)[1] a hynt, a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.
Gorwedd Mynydd Epynt mewn ardal o ucheldir a amgylchinir gan ffyrdd yr A483 i'r gorllewin, yr A40 i'r de a'r A470 i'r dwyrain, gyda'r conglau'n cael eu dynodi gan Llanymddyfri ac Aberhonddu i'r de a Llanfair-ym-Muallt i'r gogledd.
Mae'r afonydd sy'n tarddu ar ei lethrau yn cynnwys Afon Honddu, Afon Ysgir, a Nant Brân (yn bwydo Afon Wysg) ac Afon Dulas.
Hanes yr ardal
[golygu | golygu cod]Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
---|
![]() |
Cwm Tryweryn (1965) |
Mynydd Epynt (1949) |
Cwm Elan (1893) |
Llanwddyn (1888) |
![]() |
Cafodd y mynydd ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar gyfer ymarfer saethu ac mae rhannau helaeth o'r bryniau ar gau i'r cyhoedd hyd heddiw. Cyhoeddwyd bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu Mynydd Epynt yn 1939. Er gwaethaf ymdrechion Undeb Cymru Fydd i warchod yr ardal a rhwystro llywodraeth Prydain, methiant fu. Erbyn mis Mehefin 1940, gwasgarwyd y 400 o Gymry fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch ac roedd 16,000 hectar o Fynydd Epynt wedi'u troi'n faes tanio i'r Fyddin Brydeinig. Fel y noda John Davies: "O ganlyniad i weithred y Swyddfa Ryfel, symudwyd ffin y Gymraeg bymtheg cilomedr i'r gorllewin."[2]
Ganed y Piwritan John Penry yn ffermdy Cefn-brith, ger Llangamarch ar lethrau gogleddol Mynydd Epynt yn y flwyddyn 1563.
Cymreictod yr ardal
[golygu | golygu cod]
Mae Cymreictod yr ardal, o ganlyniad i'r tir a'r ffermydd a gollwyd a datblygiad coedwigaeth fasnachol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar y llethrau isaf, yn arbennig i'r gorllewin yn ardal Tirabad, wedi edwino'n sylweddol erbyn heddiw. Bu cymdeithas Gymraeg gref ym mynydd Epynt tan yn gymharol ddiweddar. Roedd yr ardal yn un o gadarnleoedd y Cymry am ganrifoedd yn wyneb ymosodiadau'r Normaniaid a brenhinoedd Lloegr.
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 478 metr (1568 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.
Copaon
[golygu | golygu cod]- Drum Ddu (474 m)
- Banc y Celyn (472 m)
- Bryn Du (463 m)
- Gwrhyd (454 m)
- Twyn rhyd-car (454 m)
- Moelfre (Epynt) (441 m)
Pentrefi cyfagos
[golygu | golygu cod]- Blaendyryn
- Capel Uchaf
- Cwm Owen
- Llandeilo'r Fan
- Llangamarch
- Llanfihangel Nant Brân
- Maesmynys
- Merthyr Cynog
- Pentre-Dolau-Honddu
- Tirabad
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2008-06-23 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru
- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 580.
- ↑ “Database of British and Irish hills”