Brenhinoedd a breninesau Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Brenhinoedd a breninesau Lloegr
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gellir olrhain teulu brenhinol Lloegr i Alffred Fawr, a oedd yn frenin ar ran fechan o'r hyn a ystyrir heddiw yn Lloegr: Wessex. Y brenin/es olaf ar Loegr oedd Anne a phan unwyd yr Alban a Lloegr yn 1707, daeth y llinach i ben a ffurfiwyd brenhiniaeth Prydain.

Brenhinoedd Sacsonaidd, a'u perthynas â Chymru[golygu | golygu cod]

Mae'r cofnod cynharaf o gysylltiad rhwng brenin o Loegr â Chymry yn cael ei nodi yn Annales Cambriae, ac mae'n dyddio i tua 616 pan y lladdwyd Selyf ap Cynan ym Mrwydr Caer (615 neu 616). Ymladdodd Selyf a'i fyddin yn erbyn Æthelfrith o Northumbria. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.[1] Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd Cymru a'r Hen Ogledd. Buddugoliaeth i'r Cymry, dan faner Tewdrig, tua deng mlynedd wedyn, yw'r cofnod nesaf, pan enillodd fuddugoliaeth ger aber Afon Gwy yn erbyn byddin o Loegr dan arweiniad brenin Wessex.

Llun diweddar o Edwin, brenin Northumbria.

Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi'r brenin Cadwallon ap Cadfan i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria yn 633.[2] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn. Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich. Yn 634 lladdwyd Cadwallon gan Edwin.

Codwyd sawl ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yn y 8g, cododd Offa glawdd sy'n parhau i fodoli mewn rhannau. Oherwydd ymosodiadau'r Llychlynwyr paganaidd yn 9g, ffodd brenhinoedd Dyfed, Gwent, Glwysing a Brycheiniog dros y ffin i geisio cymorth Ælfred, brenin Wessex, brenin a roddodd nawdd i Asser o Dyddewi. Dyma tarddiad y camdybiaeth fod gan frenhinoedd Lloegr i benarglwyddiaethu dros frenhinoedd Cymru. Trwethwyd y Cymru gan Æthelstan, oherwydd y gred hon fod Ynys Prydain gyfan dan ei faner.[1] Yn wahanol i'r Albanwyr a Gwŷr y Gogledd, derbyniodd Hywel Dda a brenhinoedd Cymreig eraill y drefn hon; dyma, fwy na thebyg gyd-destun y gerdd Armes Prydain.

Roedd holl deyrnasoedd Cymru'n un, dan arweiniad Gruffudd ap Llywelyn, pan arweiniodd gyrchoedd, yn 1063, ar Loegr (mewn cynghrair gydag Æelfgar, mab iarll Mersia. Ymosododd Harold II, brenin Lloegr ar Gymru; llofruddiodd Gruffudd a phriododd ei weddw, Ealdgyth, gan achosi ei bod o ran enw'n frenhines ar Gymru ac yn frenhines ar Loegr. Ef oedd brenin Sacsonaidd olaf Lloegr a bu ar ei orsedd rhwng 6 Ionawr 1066 hyd at ei farwolaeth ym Mrwydr Hastings ar 14 Hydref yr un flwyddyn tra'n ymladd yn erbyn y Normaniaid a oedd yn cael eu harwain gan Gwilym Goncwerwr.

Brenhinoedd Normanaidd, a'u perthynas â Chymru[golygu | golygu cod]

William I, brenin Lloegr.

Sefydlogi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr wnaeth Wiliam I, brenin Lloegr (brenin rhwng 1066 - 1087). Gwnaeth hyn drwy sefydlu ieirll cryf yng Nghaer, Swydd Amwythig a Henffordd ac anogodd hwy, fel polisi, i ddwyn tiroedd y Cymry. Cofnodwyd rhai o'r cyrchoedd hyn i ddwyn tiriogaethau yn Llyfr Dydd y Farn (neu Lyfr Domesaday) yn 1086. Y cyrchoedd hyn a arweiniodd at sefydlu'r Mers yng Nghymru. Arweiniodd Wiliam (neu 'Gwilym') ei fyddin i Dyddewi, ond wedi cyrraedd, cydnabu Rhys ap Tewdwr (bu farw 1093) yn frenin y Deheubarth. Ond ni chadwodd olynwyr Wiliam at y drefn hon ac ymosododd y Normaniaid ar y Deheubarth ac ar Frycheiniog a Morgannwg yn ystod teyrnasiad Wiliam II. Ymosododd ddwywaith yn 1094, ond bu'r ddau'n aflwyddiannus.

Cynyddodd Harri I, brenin Lloegr (1100-1135) ei afael ar Gymru a chryfaodd y Mers gryn dipyn a sefydlodd y castell brenhinol Saesnig cyntaf yng Nghaerfyrddin yn 1109. Gwnaeth hi'n bosibl hefyd i'r Ffleminiaid sefydlu yn ne Dyfed ac arweiniodd gyrchoedd yn erbyn y tywysogion Gruffudd ap Cynan o Wynedd a Maredydd ap Bleddyn o Bowys.

Methiant fu ymgais Harri II i gyfyngu ar rym y Cymry ac wedi newid polisi, cydnabuwyd Rhys ap Gruffudd yn ustus de Cymru. Pan etifeddodd Rhisiart I goron Lloegr ni chydnabuwyd statws Rhys, ond dylanwad bychan iawn a gafodd ar Gymru; nid oedd yng ngwledydd Prydain am fwy na chwe mis drwy gydol ei deyrnasiad. Ond roedd dylanwad John cryn dipyn yn fwy, fel Arglwydd Morgannwg, drwy briodas a thrwy ei berthynas â Llywelyn ap Iorwerth a briododd ferch y brenin, sef Siwan. Ildiodd y ddogfen Magna Carta nifer o gonsesiynau pwysig i Lywelyn yn 1215.

Lleihawyd statws Dafydd ap Llywelyn ac yna Owain a Llywelyn ap Gruffudd i statws barwniaid Saesnig, ond trwy gynghrair â gwrthwynebwyr brenin Lloegr yn Rhyfel y Barwniaid (1258 - 1265). Dyrchafwyd ei statws gryn dipyn yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267 pan gafodd ei gydnabod yn Dywysog Cymru. Ond torrwyd amodau'r cytundeb gan Edward I (1272 - 1307) pan fu Llywelyn yn hwyr yn talu gwrogaeth iddo a daeth diwedd ar Dywysogaeth Llywelyn. Canlyniad hyn oedd Rhyfel 1267 - 1277 a ddaeth i ben gyda Chytundeb Aberconwy, ond roedd amodau'r cytundeb yn cyfyngu'n arw ar rym Llywelyn ac yn 1282, ar farwolaeth y Tywysog, daeth ei holl diroedd i feddiant coron Lloegr. Yn dilyn hyn ymwelodd Edward â Chymru yn amlach nag unrhyw frenin Seisnig arall. Yn ogystal â chwtogi ar rymoedd arglwyddi'r Mers, cododd gadwyn o gestyll o amgylch gogledd Cymru.

Yng Nghastell Caernarfon yn 1284 y ganed mab Edward, sef Edward II (a fu'n frenin rhwng 1307 a 1327). Arwisgwyd ef â'r Dywysogaeth yn 1301, gweithred a roddodd iddo'r teitl Tywysog Cymru, y cyntaf o genedl y Saeson. Mewn brwydr gydag arglwyddi'r Mers, daliwyd ef yn Llantrisant a'i ddienyddio yng nghastell Berkeley. Digwyddodd rhywbeth tebyg i'w olynydd, Rhisiart II pan ddaliwyd ef yng Nghonwy, wedi iddo gymryd tiroedd Henry Bolingbroke, sef Arglwyddiaeth Brycheiniog, a thiroedd eraill. Wedi ei ddal yng Nghonwy, ildiodd y goron i Bolingbroke, a'i olynodd fel y brenin Harri V (brenin rhwng 1399 a 1413).

Cododd Gwrthryfel Glyn Dŵr yn ystod ei deyrnasiad, a gorffennodd ei fab Harri o Drefynwy'r gwaith o dawelu'r gwrthryfel, yr ail Sais i'w alw'i hun yn Dywysog Cymru - ar sail iddo gael ei eni yn Nhrefynwy. Penododd Harri V nifer o swyddogion lleol Cymreig a phriododd ei weddw, Katherine merch Charles V o Ffrainc. Gweithio ar ran y brenin fu ei ddau fab, yn Llundain yn bennaf a hefyd yng Nghaerfyrddin a Phenfro yn ystod Rhyfel y Rhosynnau.

Arfbais Brenhinoedd Lloegr, 1558–1603.

Y Tuduriaid, a'u perthynas â Chymru[golygu | golygu cod]

Yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, rhannwyd teyrngarwch y Cymry rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid a gwelwyd torcyfraith ledled y wlad. Roedd Edward IV yn perthyn i'r teulu Mortimer, ac felly'n un o ddisgynyddion Llywelyn ap Iorwerth. Dyma'r cyntaf o frenhinoedd Lloegr i fod â gwaed Cymreig yn ei wythiennau. Sefydlodd gyngor yn Llwydlo, yn bencadlys milwrol a rheolaethol ar yr ymarferiad o roi trefn ar Gymru. Gwnaeth hyn gan fod Llwydlo, ac yn wir hanner y Mers, yn rhan o'i diriogaethau. Yno hefyd y sefydlodd ei etifedd, Edward V ei gartref ond lladdwyd ef gan ei ewyrth Richard III yn Nhŵr Llundain, gyda'i frawd, ag yntau'n ddim ond deuddeg mlwydd oed.

Wedi alltudiaeth a lloches yn Llydaw gan Francis II, Dug Llydaw trechodd y Lancastriaid a choronwyd Harri VII ar Faes Bosworth yn Awst 1485. Croesawyd hyn gan y Cymru, gan fod un o ddisgynyddion teulu Penmynydd, bellach, yn frenin a chredwyd fod darogan y beirdd wedi dod yn wir. Cynhwysodd Harri'r Ddraig Goch yn rhan o arfbais y teulu brenhinol a rhoddodd swyddi a thir i rai o'r Cymry a ymladdodd gydag ef ym Mrwydr Bosworth, ond ni ddangosodd farw mwy o ddiddordeb yng Nghymru na hynny a magwyd ei blant yn Saeson pur. Nid unwaith y daeth unrhyw un o frenhinoedd Tuduraidd i Gymru, yr unig linach Seisnig i beidio a gwneud hynny ers 1066. Mewn gwirionedd, trodd ei gefn ar y rhai a oedd wedi brwydro drosto a dilynwyd ei esiampl am bron i gan mlynedd o reolaeth Tuduraidd. Er iddo addo Francis II y byddai'n ei gynorthwyo wedi iddo gael ei goroni, ni wnaeth hynny, a chymerwyd Llydaw yn rhan o Ffrainc pan orchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc yn 1488.

Ei fab Harri VIII, brenin Lloegr a ysgogodd mai gwlad brotestannaidd fyddai Cymru, ac un o'i brif ddynion Thomas Cromwell oedd y tu ôl i Ddeddfau Uno 1536 ac 1543. Cymhathwyd yr eglwys yng Nghymru yn rhan o'r Eglwys yn Lloegr, o dan Elizabeth I (brenhines rhwng 1558-1603), a chymerodd 400 mlynedd cyn y cafwyd Eglwys yng Nghymru.

Yn 1603 etifeddodd Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) goron Lloegr a thrwy hynny ffurfiwyd Teyrnas Prydain Fawr.

Rhestr o freninoedd o 1066 ymlaen[golygu | golygu cod]

Dyma restr o frenhinoedd a brenhinesau Teyrnas Lloegr o 1066 hyd 1707).

Wiliam I 1066-1087
Wiliam II 1087-1100 mab Wiliam I
Harri I 1100-1135 mab Wiliam I
Steffan 1135-1154 ŵyr Wiliam I
Harri II 1154-1189 ŵyr Harri I
Rhisiart I 1189-1199 mab Harri II
John 1199-1216 mab Harri II
Harri III 1216-1272 mab John
Edward I 1272-1307 mab Harri III
Edward II 1307-1327 mab Edward I
Edward III 1327-1377 mab Edward III
Rhisiart II 1377-1399 ŵyr Edward III
Harri IV 1399-1413 ŵyr Edward III
Harri V 1413-1422 mab Harri IV
Harri VI 1422-1461 a 1470 mab Harri V
Edward IV 1461-1483 gor-gorŵyr Edward III
Edward V 1483 mab Edward IV
Rhisiart III 1483-1485 brawd Edward IV
Harri VII 1485-1509 gor-gorŵyr Edward III
Harri VIII 1509-1547 mab Harri VII
Edward VI 1547-1553 mab Harri VIII
Yr Arglwyddes Jane Grey 1553 gorwyres Harri VII
Mari I 1553-1558 merch Harri VIII
Elisabeth I 1558-1603 merch Harri VIII

Lloegr a'r Alban (1603-1707)[golygu | golygu cod]

Iago I/VI, brenin Lloegr a'r Alban 1603-1625 mab Mair o'r Alban, gorwyr Harri VII o Loegr
Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban 1625-1649 mab Iago VI/I
Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban 1660-1685 mab Siarl I
Iago II/VII, brenin Lloegr a'r Alban 1685-1689 brawd Siarl II
Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban 1689-1701 a Mari II, brenhines Lloegr a'r Alban 1689-1694 mab-yn-nghyfraith a merch Iago VII/II
Anne, brenhines Prydain Fawr 1701-1714 chwaer Mari II

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 90.
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.62