Afon Honddu (Epynt)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Afon Honddu (gwahaniaethu).
Castell Aberhonddu, yn y cymer rhwng afonydd Wysg a Honddu.

Afon ym Mrycheiniog, de Powys, yw Afon Honddu. Mae'n tarddu i'r de o Ddrum Ddu (474 m), un o gopaon Mynydd Epynt, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Llanfair-ym-Muallt. Afon Honddu yw un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg. Ei hyd yw tua 11 milltir.

Llifa'r afon ar gwrs i gyfeiriad y de o lethrau Epynt i lawr trwy gwm deniadol i Aberhonddu lle mae'n llifo i afon Wysg. Mae'r aber yn yr enw Aberhonddu yn cyfeirio at aber neu 'geg' yr afon honno yn afon Wysg.

Ceir sawl pentref ar lan yr afon, sef (o'r gogledd i'r de): Pentref Dolau Honddu, Capel Uchaf, Castell Madog, Capel Isaf, Pwllgloyw a Llandefaelog Fach.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.