Merthyr Cynog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref gwledig a phlwyf ym Mrycheiniog, de Powys, yw Merthyr Cynog. Mae'n gorwedd ar lethrau deheuol Mynydd Epynt rhwng afonydd Ysgir Fawr ac Ysgir Fechan, ffrydiau sy'n ymuno yn nes i lawr i ffurfio afon Ysgir, un o ledneintiau afon Wysg.

Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, 6 milltir i'r de-ddwyrain. Y pentref cyfagos yw Llanfihangel Nant Brân, dros y bryn i'r gorllewin, a'r Capel Uchaf i'r gogledd-ddwyrain.

Ystyr y gair merthyr yma yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Cysylltir y plwyf a Sant Cynog, un o feibion Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Cynog gerllaw a chodwyd eglwys ar ei fedd. Ymhlith y lleoedd eraill a gysylltir â'r sant ceir Defynnog, tua 5 milltir i'r de-orllewin, ger Pontsenni.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Merthyr Cynog (pob oed) (245)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Merthyr Cynog) (44)
  
18.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Merthyr Cynog) (155)
  
63.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Merthyr Cynog) (19)
  
19.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.