Manafon

Oddi ar Wicipedia
Manafon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.612044°N 3.310561°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000328 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon.[1] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.

Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Eglwys Mihangel Sant, Manafon

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Manafon (pob oed) (301)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Manafon) (54)
  
18.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Manafon) (127)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Manafon) (35)
  
26.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cysylltiadau llenyddol[golygu | golygu cod]

Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd ran helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yno am gyfnod ganol y 18g.

Treuliodd y bardd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod am ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:

"O'r braidd fod Manafon yn bod. Doedd yno ddim pentref, dim ond eglwys, ysgol, tafarn a siop. Gwasgarwyd y ffermydd hyd y llethrau yn fân-ddaliadau ar y cyfan gydag ambell fferm mwy sylweddol. Saes-Gymry oedd y bobl, gydag enwau Cymraeg ac acen Sir Amwythig. Daethant yn destun ei farddoniaeth."[7]

Defnyddiodd y cerddor David Sylvian brofiadau R. S. Thomas ym Manafon yn sail i'w albwm Manafon (2009).

Enwogion[golygu | golygu cod]

David Lloyd (1656 - 1731) cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. R. S. Thomas, Neb (Gwasg Gwynedd), tud. 42.