Neidio i'r cynnwys

Machynlleth

Oddi ar Wicipedia
Machynlleth
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,235, 2,163, 2,161 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.591°N 3.849°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000326 Edit this on Wikidata
Cod OSSH745005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
Map

Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger aber Afon Dyfi. Mae ganddi boblogaeth o 2,235 (2011),[3] 2,163 (2021),[4] 2,161 (2021)[5]. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.

Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas. Agorwyd siop gyntaf Laura Ashley yma ym Machynlleth yn 35 Heol Maengwyn, a hynny yn 1961.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[6] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[7] Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Machynlleth (pob oed) (2,235)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Machynlleth) (1,119)
  
51.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Machynlleth) (1466)
  
65.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Machynlleth) (390)
  
37.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Pont-ar-Ddyfi a Phont Ddyfi Newydd

[golygu | golygu cod]

Crybwyllir 'Pont ar Ddyfi' am y tro cyntaf yn 1533, gan Geoffrey Hughes yn ei gyfrol "Citizen and Merchant taylour of London" a adawodd £6 13s 4d (deg marc) i godi'r bont. Erbyn 1601 dywedwyd nad oedd "pont Ddyfi yng Nghantref Mochunleth" yn ddigonol, ac adeiladwyd yr un presennol yn 1805 am gost o £250.

Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Agorwyd y ffordd newydd yn 2023 a chostiodd tua £46 miliwn, arianwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.[11] Roedd yr hen bont dan lifogydd yn aml pan oedd llif yr afon yn gryf ond mae'r broblem hon bellach wedi'i datrys.

Hamdden

[golygu | golygu cod]

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Digwyddiadau

[golygu | golygu cod]

Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:

Machynlleth, Sir Drefaldwyn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000326.
  4. https://www.cambrian-news.co.uk/news/valley-of-the-lonely-hearts-668205.
  5. "Parish Profiles". dyddiad cyrchiad: 5 Awst 2024. cyhoeddwr: Swyddfa Ystadegau Gwladol. cyhoeddwyd fel rhan o'r canlynol: Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
  6. Gwefan Senedd Cymru
  7. Gwefan Senedd y DU
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. "Codi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth". Golwg360. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.