Coedwig Dyfi
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6828°N 3.7736°W |
Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cader Idris gyda'r rhanfwayf o'r coetir yn gorwedd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.[1] Mae Coedwig Dyfi yn goedwig eang o dros 5,000 hectr, i'r gogledd o brif Afon Dyfi ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n cynnwys ardaloedd o goedwigoedd o amgylch aneddiadau Pantperthog, Ceinws, Corris, Aberllefenni yn y gorllewin ac Aberangell a Dinas Mawddwy yn y dwyrain.[2] Mae'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu'r coed yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl i’r rhyfel ddisbyddu holl goed Prydain.
Parhaodd y plannu drwy’r Ail Ryfel Byd gyda Merched Byddin y Tir, a elwid yn “Timber Jills”, yn plannu’r coed.[1]
Lleolad
[golygu | golygu cod]Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.
Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.
Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.
Hamdden
[golygu | golygu cod]Ceir tri coetir o fewn y goedwig a sawl llwybr cerdded gydag adnoddau hamdden ac ar gyfer twristiaid megis arwyddbyst, delweddau, adnoddau addysg syml, a byrddau bwyta picnic:
- Tan y Coed - Grid OS: SH 755 053 oddi ar yr A487 3½ milltir i'r gogledd o Fachynlleth. Ceir llwybr cerdded; Llwybr Darganfod Anifeiliaid (hyd 1 milltir/1.8km); Llwybr Tan y Coed (hyd 1½ milltir/2.3km) [1]
- Foel Friog - Grid OS: SH 769 092 ger pentref Aberllefenni ar yr A487. Ceir llwybr cerdded; Llwybr Pen y bryn (2 filltir/3.2km)[4]
- Nant Gwernol - Grid OS: SH 681 067 ar gyrion Abergynolwyn. Ceir sawl llwybr; Llwybr y Gorsafoedd (1 filltir/1.7km), Llwybr y Rhaeard (1 filltir/1.6km), Llwybr y Chwarelwyr (3¼/5.1km)[5]
Beicio Mynydd
[golygu | golygu cod]Datlblygwyd cynlluniau ar gyfer datblygu beicio mynydd mewn ffordd gynaliadwy ac yn fasnachol o fewn Coedwig Dyfi. Daw hyn gan Beicio Mynydd Dyfi MTB.[6]
Ceir llwybr beicio mynydd Ceinws Climachx sydd ger pentref Ceinws ger Machynlleth ond yng nghanol Coedwig Dyfi. Mae'r llwybr beicio mynydd yma yn 15km o hyd gyda chyfanswm yr esgyniad (neu ddisgyniad wrth fynd lawr) yn 450 medr ac yn denu ymwelwyr i fwynhau'r golygfeydd a'r antur o seiclo ar lwybrau coediog a mynyddig.[7] Dyma'r disgyniad gwaith dynol hwyaf yng Nghymru gyda'r llwybr yn cael ei chynnal a chadw gan weithwyr ac mae'n atyniad i seiclwyr mynydd profiadol.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Coedwig Dyfi - Tan y Coed, ger Machynlleth". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfi 2022". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Coedwig Dyfi - Foel Friog, ger Machynlleth". Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Coedwig Dyfi - Nant Gwernol, ger Machynlleth". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Prosiect Coedwig Dyfi". Beicio Mynydd Dyfi MTB. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Coedwig Dyfi - Ceinws (Climachx), ger Machynlleth". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "The Climachx Trail Final Descent, Dyfi. The Longest Man Made Descent In Wales!!! This Really Is Why". Trail Hunting MT-Beer. 2022. Cyrchwyd 4 Mai 2023.