Hectr

Oddi ar Wicipedia
Maint hectr = arwynebedd Sgwâr trafalgar

Mae Hectr neu Hectar ar lafar (symbol:ha) yn uned safonol ychwanegol at yr uned SI, a ddefnyddir i fesur arwynebedd. Caiff ei ddiffinio fel 10,000 metr sgwâr, a chaiff ei ddefnyddio fynychaf i fesur tir. Yn 1795, pan gyflwynwyd y system fetrig cafodd yr are ei ddiffinio fel 100 metr sgwâr; maint yr hectr, felly, oedd cant are, h.y. "hecto" + "are", sef 100 are, neu 0.01 km2.

Pan ddiwygiwyd y system fetrig yn 1960 drwy gyflwyno System Ryngwladol o Unedau ac Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, penderfynwyd - yn rhyngwladol - i hepgor yr are[1] a chanolbwyntio ar yr hectr.

Mae'n cyfateb i 2.47105 erw neu acer.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-01. Cyrchwyd 2010-09-11.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.