System fetrig

Oddi ar Wicipedia
     Gwledydd sydd wedi mabwysiadu'n swyddogol y system fetrig     Gwledydd sydd heb fabwysiadu'n swyddogol y system fetrig (Unol Daleithiau America, Myanmar, a Liberia)

Defnyddir y system fetrig gan lawer o wledydd drwy'r byd. Fe'i sylfaenwyd yn wreiddiol ar y mètre des Archives a'r kilogramme des Archives a darddodd yng Ngweriniaeth Ffrainc yn 1799.[1] Dros y blynyddoedd newidiwyd y diffiniad o'r fetr a'r cilogram ac ychwanegwyd at y system yn helaeth. Yn niwedd y 19g a chychwyn yr 20g gwelwyd nifer o systemau eraill yn cael eu creu ond dyma'r system a ddefnyddir bellach, bron drwy'r byd. Defnyddir y term 'System fetrig' fel cyfystyr i "SI" (System Ryngwladol o Unedau) ac am yr Unedau ychwanegol at yr Unedau SI. Daw'r talfyriadau canlynol, a dderbynir drwy'r byd, o'r Ffrangeg:

  • SI: System Ryngwladol o Unedau (Le Système international d'unités)
  • CGPM: Y Gynhadledd Gyffredinol ar Bwysau a Mesurau (Conférence générale des poids et mesures)
  • CIPM: Pwyllgor Rhyngwladol Pwysau a Mesurau (Comité international des poids et mesures)
  • BIPM: Biwro Rhyngwladol Pwysau a Mesurau (Bureau international des poids et mesures)
  • CIE: Comisiwn Rhyngwladol Golau (Commission Internationale de l'Eclairage )

Mae'r system fetrig wedi'i chadarnhau'n swyddogol yn Unol Daleithiau America ers 1866 ond nid yw wedi mabwysiadu'r system yn swyddogol. Yn 1988, fodd bynnag, cadarnhaodd y Gyngres (drwy Ddeddf Omnibus Trade and Competitiveness Act) mai'r system fetrig oedd y dewis gorau. Liberia a Myanmar yw'r unig ddwy wlad arall sydd heb dderbyn y sytem fetrig yn swyddogol nag yn weithredol. Cedwir at rai agweddau o'r hen system yng ngwledydd Prydain hefyd e.e. pellter ar arwyddion ffyrdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alder, Ken (2002). The Measure of all Things—The Seven-Year-Odyssey that Transformed the World. London: Abacus. ISBN 0-349-11507-9.