Tywysog Cymru
- Gweler hefyd: Brenin & Tywysog Cymru.

Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.
Tywysogion Cymru brodorol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gweler hefyd: Brenin & Tywysog Cymru
Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain." Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru". Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru. Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab.
Owain Glyndwr[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe arweiniodd Owain Glyndwr wrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.
Rhestr Tywysogion Cymru Brodorol[golygu | golygu cod y dudalen]
Llun | Enw | Arfbais | Teyrnas | Teitl Cymreig | Cyfnod y teitl
(Yn ôl tystiolaeth) |
Marwolaeth ac achos marwolaeth | Ffynhonnell |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Brenin Cymru & Tywysog Cymru | |||||||
![]() |
Gruffudd ap Cynan | Aberffraw, Terynas Gwynedd (O 1081) | Aberffraw, Terynas Gwynedd (O 1081) | Brenin y Cymry i gyd, Tywysog y Cymru i gyd
(in 1137)[2] |
1137 | Bu farw yn 1137, yn 81-82 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion |
![]() |
Owain Gwynedd | Caernarfon
(Dim tystiolaeth o ddefnydd yr arfbais.) |
Teyrnas Gwynedd | Tywysog dros y wlad Brydeinig (in 1146); Brenin Cymru, Brenin y Cymry, tywysog y Cymry | 1146–1170 | Bu farw yn 1170, yn 69-70 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion; chartiau modern.[3] |
Tywysog Cymru | |||||||
![]() |
Rhys ap Gruffydd
(Yr Arglwydd Rhys) |
Teyrnas Deheubarth | Teyrnas Deheubarth (O 1155) | Pennaeth Cymru i gyd (in 1197); Tywysog y Cymry (in 1184), Tywysog Cymru | 1184–1197 | Bu farw yn 1197, yn 65 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion; chartiau modern |
![]() |
Llywelyn ap Iorwerth
(Llywelyn Fawr) |
Teyrnas Gwynedd | Gwynedd (o 1194), hefyd o 1208 a Powys, o 1216 hefyd Deheubarth | Tywysog y Cymry (yn 1228); Tywysog Cymru (yn 1240) | 1228–1240 | Bu farw yn 1240, yn 66-67 mlwydd oed. | Brut y Tywysogion; chartiau modern |
![]() |
Dafydd ap Llywelyn | Teyrnas Gwynedd | Gwynedd | Tywysog Cymru (fo 1220) | 1220–1246 | Bu farw yn sydyn yn 1246, yn 33 mlwydd oed. | Cytundeb gyda Lloegr |
![]() |
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn ein Llyw Olaf) |
Teyrnas Gwynedd | Gwynedd (o 1246), ar adegau hefyd Powys a Deheubarth
Tywysog Gwynedd yn 1246 ar ôl Dafydd. |
Tywysog Cymru (yn 1264; yn 1258; yn 1267; 1258–82)
"Tywysog Cymru" o 1258. (Adnabyddir gan Henry III 29 Medi 1267) |
1258–1282 | Lladdwyd ar y 11eg o Ragfyr yn 1282, yn 59 mlwydd oed.
Lladdwyd gan filwr Saesnig mewn twyll, dan yr argraff o gael drafodaeth. Cymerwyd ei ben o amgylch Llundain ar waywffon a roddwyd ei ben ar bigyn Twr Llundain.[4] |
Brut y Tywysogion; Cytunedb gyda'r Alban, Cytundeb gyda Lloegr, llythyron, charteri etc. |
Dafydd ap Gruffydd | Teyrnas Gwynedd | Teyrnas Gwynedd | Tywysog Cymru (yn 1283) | 1282–1283 | Lladdwyd ar Hydrey 3ydd, 1283.
Llusgwyd trwy strydoedd Shrewsbury gan geffyl. Crogwyd, adfywiyd adiberfeddwyd. Taflwyd ei berfeddau i'r tân wrth iddo wylio. torrwyd ei ben i ffwrdd a'i roi ar bigyn Twr llundain nesaf at ei frawd Llywelyn. Torrwyd ei gorff mewn i chwarteri.[5] |
Llythyrau[6] | |
Rheolaeth Saesnig yn dechrau ar ôl artaith a llofruddiaeth Llywelyn ein Llyw Olaf ac artaith a llofruddiaeth Dafydd ap Gruffydd. | |||||||
![]() |
Madog ap Llywelyn | Teyrnas Gwynedd | Teyrnas Gwynedd | Tywysog Cymru (yn 1294) | 1294–1295 | Daliwyd fel carcharor yn Llundain. | Dogfen Penmachno |
![]() |
Owain Glyndŵr | Teyrnas Gwynedd a hefyd Teyrnas Deheubarth | Gogledd powys. Erbyn 1404–5, Cymru i gyd. Erbyn 1409 Gwynedd yn unig. | Tywysog Cymru
(1400-1415. Ni ddebyniodd bardwn gan frenhinoedd Lloegr.) |
1400 – 1415 | 1415, yn 55-56 mlwydd oed. Claddwyd yn ddirgel. | Llythr Penal |
Tywysogion Anfrodorol, Saesnig[golygu | golygu cod y dudalen]
Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru
Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru.
Rhestr o Dywysogion Anfrodorol Cymru (Saesnig)[golygu | golygu cod y dudalen]
- Edward o Gaernarfon 1301-1307
- Edward, y Tywysog Du 1343-1376
- Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
- Harri Mynwy 1399-1413
- Edward o Westminster 1454-1471
- Edward mab Edward IV 1471-1483
- Edward o Middleham 1483-1484
- Arthur Tudur 1489-1502
- Harri Tudur 1504-1509
- Harri Stuart 1610-1612
- Siarl Stuart 1616-1625
- Siôr mab Siôr I 1714-1727
- Frederick 1729-1751
- Siôr mab Frederick 1751-1760
- Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
- Albert Edward 1841-1901
- Siôr mab Edward VII 1901-1910
- Edward mab Siôr V 1910-1936
- Siarl Windsor (1958-2022)[7]
- William (2022 - )[8]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Hanes Cymru, t. 138, John Davies, Penguin 1990
- ↑ "Brut y Tywysogion". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-05-24.
- ↑ Carpenter, David (2003). The struggle for mastery: Britain 1066–1284.
- ↑ Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
- ↑ Long, Tony. "Oct. 3, 1283: As Bad Deaths Go, It's Hard to Top This". Wired (yn Saesneg). ISSN 1059-1028. Cyrchwyd 2022-05-27.
- ↑ Nodyn:Cite DWB
- ↑ Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, J.G. Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
- ↑ "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.