Llangynog, Powys

Oddi ar Wicipedia
Llangynog, Powys
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCynog Ferthyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.824406°N 3.405141°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000314 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref a chymuned o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llangynog, Sir Gaerfyrddin.

Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangynog.[1] Saif yng ngogledd y sir ar lan Afon Tanad, ger cyflifiad yr afon honno ag Afon Eirth, ar y ffordd B4391 tua hanner ffordd rhwng Y Bala i'r gogledd-orllewin a'r Trallwng i'r de-ddwyrain, yn Nyffryn Tanad. Y dref agosaf yw'r Bala.

Llangynog

I'r gogledd a'r gorllewin o'r pentref mae bryniau moel Y Berwyn yn ymestyn am filltiroedd. Mae lôn gul yn arwain o'r pentref i fyny cwm diarffordd i blwyf hanesyddol Pennant Melangell gydag eglwys wedi ei chysegru i'r santes Melangell.

Tu ôl i'r pentref i'r gogledd ceir bryngaer Craig Rhiwarth, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n dyddio i Oes yr Haearn. Tair kilometr i'r Gogledd-Ddwyrain saif Cylch Cerrig Cwm Rhiwiau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynog (m. 492). Ceir hen ywen (fenywaidd) yn tyfu yn y fynwent; mesurwyd hon yn 2008, a chafwyd ei bod yn 23 troedfedd o'i chwmpas ac yn 2008 roedd yn 24` 7`` (7.49m).[4].

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangynog, Powys (pob oed) (339)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynog, Powys) (122)
  
36.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynog, Powys) (111)
  
32.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangynog, Powys) (65)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Gwefan www.ancient-yew.org; adalwyd 27 Hydref 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.