Llanigon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanigon. Saif bron ar y ffîn a Lloegr, i'r de o'r Gelli Gandryll.

Ceir nifer o feddrodau o'r cyfnod Neolithig yma. Mae i'r ardal le pwysig yn hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru; dechreuodd Henry Maurice bregethu yma yn 1672, a sefydlwyd capel anghydffririol mewn hen ysgubor ym Mhen-yr-wrlodd yn 1707. Sefydlwyd ysgol yn Llwyn-llwyd gan David Price, a bu Howel Harris a William Williams, Pantycelyn yn astudio yno.

Yng Nghapel-y-ffin sefydlodd Joseph Lyne ("Y Tad Ignatius") fynachlog Fenedictaidd Anglicanaidd yn 1869. Yn ddiweddarach, daeth y fynachlog yn eiddo i Eric Gill.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 525.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanigon (pob oed) (478)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanigon) (44)
  
9.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanigon) (198)
  
41.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanigon) (50)
  
24.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu]