Llanidloes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanidloes
Llanidloes Great Oak Street.jpg
Math tref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Derwal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.449°N 3.5402°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000315 Edit this on Wikidata
Cod OS SN954845 Edit this on Wikidata
Cod post SY18 Edit this on Wikidata

Tref ym Maldwyn, Powys ar lan Afon Hafren yw Llanidloes. Mae Caerdydd 110.4 km i ffwrdd o Lanidloes ac mae Llundain yn 257.4 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 71.2 km i ffwrdd. Gorsaf reilffordd Caersws yw'r un agosaf, 6 milltir i ffwrdd. Crewyd 2 lwybr yn 2006, sef Sarn Sabrina 25 milltir o hyd) a Semi Sabrina (12 milltir), yn dechrau o Lanidloes.[1][2] Cyfeirir y dref ar lafar, yn aml, fel Llani.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffotograff gan John Thomas o Lanidloes yn 1881.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd llan ar safle Llanidloes gan Sant Idloes (fl. 6ed-7g).

Canodd y bardd canoloesol Gruffudd ab Adda ap Dafydd gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes. Mae'n un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus.[3] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[4] Llanidloes oedd y pentref lle magwyd y merthyr Rhisiart Gwyn.[5]

Erbyn diwedd y 18g, Roedd y dref yr un bwysicaf ym Maldwyn ar rhan cynhyrchu gwlan a gwlanen, ond yn raddol, daeth Y Drenewydd yn bwysicach, a hefyd symudodd cynhyrchiad o dai i ffatrioedd.[6]. Agorwyd Cyfnewydfa Wlanan yn Llanidloes ym 1838, ond erbyn 1913 roedd y felin olaf wedi cau.

Roedd y dywidiant plwm yn bwysig i’r dref, oherwydd y pwllau Van gerllaw. Erbyn 1876 roeddent ymysg pyllau mwyaf cynhyrchiol y byd, yn rhoi gwaith i dros 500 o bobl. Sefydlwyd ffowndri yn y dref ym 1851, ac adeiladwyd nifer fawr o gapeli a siopau yn ystod y cyfnod.[7]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanidloes (pob oed) (2,929)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanidloes) (439)
  
15.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanidloes) (1825)
  
62.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanidloes) (556)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%
Llanidloes01LB.jpg
Canol Llanidloes.
Melin Penybont

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Llanidloes
  2. Gwefan Llanidloes
  3. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  4. 'Y Fedwen yn Bawl Haf'. Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
  5. Davies, John (2008). The Welsh Academy Encyclopedia. Caerdydd: University of Wales Press. t. 501. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  6. Jenkins J. G. The Welsh Woollen Industry
  7. Gwefan history.powys.org.uk
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.