Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg

Oddi ar Wicipedia
Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg
Enghraifft o'r canlynolblodeugerdd Edit this on Wikidata
GolygyddThomas Parry Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1962 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif bwncllenyddiaeth Edit this on Wikidata

Blodeugerdd Gymraeg a olygwyd gan Syr Thomas Parry yw Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (yr Oxford Book of Welsh Verse).[1] Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1962 ac mae mewn print byth ers hynny.

Dyma'r detholiad mwyaf cynhwysfawr o farddoniaeth Gymraeg i weld golau dydd. Roedd yn ychwanegiad pwysig i'r gyfres unffurf o flodeugerddi cynrycholiadol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Gyda dros 565 o dudalennau, mae'n ddetholiad sy'n rhychwantu hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r cychwyn yn y 6g i ganol yr 20g, o waith Aneirin a Taliesin i gerddi Saunders Lewis a T. H. Parry-Williams.

Er bod rhai beirniaid diweddar yn beirniadu'r golygydd am fod yn geidwadol braidd yn ei ddewis o destunau erys yn gyfrol anhepgor i fyfyrwyr Cymraeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Derec Llwyd Morgan. PARRY, SyrTHOMAS (1904 - 1985). Y Llyfrgell Genedlaethol. Adalwyd ar 6 Mai 2012.