Saunders Lewis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Saunders Lewis
Saunders Lewis.jpg
Geni John Saunders Lewis
15 Hydref 1893(1893-10-15)
(125 blynedd yn ôl)
Wallasey, Lerpwl, Lloegr
Marw 1 Medi 1985(1985-09-01) (91 oed)
Galwedigaeth Darlithydd prifysgol
Cenedligrwydd Cymro
Addysg Prifysgol Lerpwl
Math o lên drama, beirniadaeth lenyddol, barddoniaeth
Gwaith nodedig Siwan, Blodeuwedd, Monica, Buchedd Garmon, Brad
Dylanwad Emrys ap Iwan, W. B. Yeats, Paul Claudel
Wedi dylanwadu sawl dramodydd Cymraeg
Cofeb Saunders Lewis yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe; dadorchuddiwyd 22 Medi 2016.

Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 18931 Medi 1985). Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ond fel dramodydd y cydnabyddir ef fwyaf.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

61 Falkland Road, Lerpwl: y tŷ lle'i ganed.

Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn Wallasey, ger Lerpwl. Roedd yn ail o dri mab i'r gweinidog Methodist Calfinaidd, y Parch. Lodwig Lewis (1859–1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (née Thomas, 1862–1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn.

Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl[1] pan gychwynnodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda Chyffinwyr De Cymru a fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd.[2] Ar ôl gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Saunders Lewis yn 1916

Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol: A School of Welsh Augustans (1924), Williams Pantycelyn (1927), a Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932).[4]

Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Margaret Lewis (née Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).[2]

Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret.[1] Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.

Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.[5]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd a Siwan, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.

Gwobrau a theitlau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2005 cafodd Saunders Lewis ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn pôl piniwn a wnaed gan y BBC.[6]

Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr yn cynnwys llun ohono.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrol o'i farddoniaeth ydy "Siwan a Cherddi Eraill", er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.

Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dramâu[golygu | golygu cod y dudalen]

Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.

Beirniadaeth Lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifau Gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiaethau a llyfrau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 [1] Archifau Cymru; adalwyd 03/11/2012
  2. 2.0 2.1  LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893-1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd. Bywgraffiadur (16 Medi 2014). Adalwyd ar 13 Mawrth 2019.
  3. "Saunders Lewis". BBC. 2011. Adalwyd 17 Tachwedd 2011.  Check date values in: |access-date= (help)
  4. Kendall, Tim (22 Chwefror 2007). The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry. OUP Oxford. p. 342. ISBN 978-0-19-928266-1. 
  5. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/4333779.stm
  6. Bevan is ultimate Welsh hero adalwyd 12-04-07

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • [2] Plac glas i gofio Saunders Lewis - cyfweliad gyda'r Athro Prys Morgan (Golwg360)
  • [3] "Camgymeriad" cysylltu Saunders ag Abertawe am resymau negyddol - cyfweliad gyda Robert Rhys (Golwg360)
  • Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) > ar wefan Gwales

Gellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.