Siwan Jones

Oddi ar Wicipedia
Siwan Jones
GanwydMedi 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, actor Edit this on Wikidata
PerthnasauSaunders Lewis Edit this on Wikidata

Awdur a sgriptiwr o Gymraes yw Siwan Jones (ganwyd Medi 1956). Mae'n gyfrifol am greu a sgriptio rhai o ddramau teledu mwyaf poblogaidd a llwyddiannus S4C, yn cynnwys Tair Chwaer, Con Passionate, Alys a 35 Diwrnod.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd i Haydn Jones a Mair Gras Saunders Jones, merch Saunders Lewis.[2] Bu'n actores yn yr 1980au gan actio ar Coleg, Y Cleciwr a sgriptio ar Dinas.

Yn 1983, enillodd y wobr am 'Sgript ffilm ddramatig' yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.[3] Cynhyrchwyd ffilm o'r sgript gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dan y teitl Ty'd Yma Tomi!. Darlledwyd y ffilm ar S4C ar 1 Mawrth 1985.

Roedd yn briod ag Emyr Wyn ac mae'n fam i'r actor Siôn Ifan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cynhyrfu Cytgord y Côre. BBC Cymru (Rhagfyr 2004). Adalwyd ar 13 Mawrth 2019.
  2.  JONES Mair Gras Saunder (1 Chwefror 2011).
  3.  Woodward, Kate. Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]