Neidio i'r cynnwys

35 Diwrnod

Oddi ar Wicipedia
35 Diwrnod/Awr
Genre Drama
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 32 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 45-50 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 23 Mawrth 2014
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Rhaglen deledu ar ffurf drama ddirgelwch yw 35 Diwrnod a 35 Awr. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Apollo (rhan o grŵp Boom Cymru). Fe'i ddarlledir yn y slot ddrama arferol am 9pm ar nos Sul ar S4C.

Mae'r cyfresi yn dilyn un stori gyda phatrwm tebyg drwy gychwyn wrth ddarganfod corff marw. Wedi hynny mae'r stori yn neidio nôl 35 diwrnod/awr drwy gyflwyno'r sefyllfa a chymeriadau. Mae'r penodau sy'n dilyn yn symud ymlaen drwy amser cyn cyrraedd yn ôl i'r golygfeydd cychwynnol i ddatgelu'r llofrudd.

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Awduron y tri cyfres cyntaf oedd Siwan Jones ac Wiliam Owen Roberts. Mae'r ddau yn ddramodwyr sydd wedi ysgrifennu nifer o gyfresi ar gyfer S4C ond dyma'r tro cyntaf i'r ddau gyd-weithio.[1]

Ffilmiwyd y gyfres cyntaf yn 2014 ac fe'i darlledwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2014. Prif leoliad y ffilmio oedd ystad preifat o dai o'r enw Meadow Gate yn Maesycwmer, ger Caerffili. Enw'r stryd yn y gyfres oedd 'Crud yr Awel'.[2]

Cychwynwyd ffilmio yr ail gyfres ar 15 Mehefin 2015 ac fe'i darlledwyd yn Nhachwedd a Rhagfyr 2015.[3] Prif leoliad y gyfres yma oedd swyddfa mewn bloc swyddfa uchel yng nghanol Caerdydd.[4]

Cychwynwyd ffilmio y drydedd gyfres yng Ngorffennaf 2016, mewn lleoliad gwledig y tro hwn. Fe'i darlledwyd ym mis Mawrth ac Ebrill 2017. Lluniwyd y stori unwaith eto gan Siwan Jones a Wil Roberts ac awdur y sgript oedd Siwan Jones.

Cynhyrchwyd y bedwaredd gyfres gyda'r enw 35 Awr ym 2018, gyda sgript wedi’w hysgrifennu gan Fflur Dafydd. Ffilmiwyd y gyfres yng ngwesty Court Colman Manor ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ddechrau'r ffilmio, nid oedd yr actorion yn gwybod pa rannau oeddent am chwarae nac yn gwybod am y cymeriadau arall yn y gyfres.[5]

Ysgrifennwyd pumed cyfres gan Fflur Dafydd unwaith eto, gan ddychwelyd i enw 35 Diwrnod. Fe'i darlledwyd ar S4C ym mis Ebrill a Mai 2020.[6]

Addasiad Saesneg

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd fersiwn Saesneg o'r rhaglen gyda'r teitl 15 Days. Addaswyd y stori o drydedd cyfres y fersiwn Cymraeg, gyda'r hanes yn cael ei adrodd dros 15 diwrnod yn hytrach na 35. Mae ambell un o'r cast Cymraeg yn chwarae yr un cymeriadau yn y fersiwn yma hefyd. Mae pedwar pennod yn y gyfres fer ac fe'i darlledwyd rhwng 13 a 16 Mai 2019 ar Channel Five.[7]

Cyfres 1

[golygu | golygu cod]

Lleolir y gyfres ar ystad dai gefnog a pharchus 'Crud yr Awel'. Datgelir corff marw Jan ar ddechrau'r gyfres cyn neidio nôl 35 diwrnod ynghynt pan ddaeth y wraig ifanc i fyw i'r stad. Wrth i'r gyfres barhau rydym yn dod i adnabod ei chymdogion yn y stryd a'u cyfrinachau. Datgelir y llofrudd ym munudau cloi'r bennod olaf.

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[9]
1"Pennod 1 (35 diwrnod ynghynt)"Gareth BrynSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts23 Mawrth 2014 (2014-03-23)62,000
Darganfod corff marw yw man cychwyn y gyfres. Mae'r bennod gyntaf yn dechrau 35 diwrnod cyn darganfod y corff.
2"Pennod 2 (29 diwrnod ynghynt)"Gareth BrynSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts30 Mawrth 2014 (2014-03-30)48,000
Gyda Jan yn gwneud ei hymddangosiad llawn cyntaf ar y Clos, mae ei dylanwad ar y trigolion eraill i'w weld yn syth
3"Pennod 3 (25 diwrnod ynghynt)"Gareth BrynSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts6 Ebrill 2014 (2014-04-06)33,000
Mae Jan yn parhau i gynhyrfu'r dyfroedd yng Nghlos Crud yr Awel, wrth fynd a dod.
4"Pennod 4 (16 diwrnod ynghynt)"Gareth BrynSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts13 Ebrill 2014 (2014-04-13)38,000
Ydy hi am fod yn flwyddyn newydd dda ar y Clos? Dim i un unigolyn sy'n ymadael yn annisgwyl iawn.
5"Pennod 5 (9 diwrnod ynghynt)"Paul JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts20 Ebrill 2014 (2014-04-20)30,000
Mae byd Jan yn mynd yn fwy ac yn fwy cymhleth wrth i nifer gynyddol o drigolion y Clos ddymuno cael gwared â hi o Grud yr Awel.
6"Pennod 6 (7 diwrnod ynghynt)"Paul JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts27 Ebrill 2014 (2014-04-27)39,000
Wrth i Mark ddilyn Jan i'r Clos, cawn ddysgu mwy am gefndir Jan a pham mae wedi dewis byw yng Nghrud yr Awel.
7"Pennod 7 (3 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts4 Mai 2014 (2014-05-04)35,000
Mae dynged anochel Jan yn ymestyn yn nes at ei gilydd wrth i densiynau barhau, ac wrth i ddrama bellach ddatgelu hunaniaeth ei lladdwr mae'n dal i fod yn anhysbys. Mae darganfyddiad Richard yn y dyddiau sy'n arwain at farwolaeth Jan yn darparu cliwiau hanfodol. Mae bywyd Linda hefyd yn dod yn fwyfwy cymhleth, ac mae Huw yn gorfod cystadlu â'i wraig aflonyddgar a'i frawd anodd Bobo, ac ymddengys bod Tony yn ei reoli fel un a amheuir ar ôl mynd i'w wely.
8"Pennod 8 (3 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts11 Mai 2014 (2014-05-11)38,000
Daw 35 diwrnod Jan i ben yn raddol, ond mae'n dal i gael ei weld pwy fydd yn gyfrifol am ei marwolaeth. Mae materion eraill yn dod i'r amlwg yn cynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn car Jan ar ôl ymddangosiad Bobo. Yn y cyfamser, mae Tony wedi ei syfrdanu pan mae rhywun yn ymddangos yn ei ystafell wely.

Cyfres 2

[golygu | golygu cod]

Lleoliad canolog y gyfres hon yw swyddfa cwmni ymchwilio twyll yswiriant. Yn y bennod cyntaf mae parti'r cwmni yn cymryd lle yn ei swyddfa mewn adeilad tal. Mae Simon yn cyrraedd y swyddfa ac yn siarad a rhywun ar y ffôn, sy'n gofyn i'w gyfarfod ar do'r adeilad. Wrth iddo gyrraedd rydym yn gweld dau berson yn y tywyllwch cyn gweld Simon yn disgyn i'r palmant ymhell islaw. Yna mae'r stori yn teithio 35 diwrnod yn ôl i'r gorffennol lle mae'r gwyliwr yn dod i adnabod y cymeriadau.

  • Simon - Mark Flanagan
  • Ruth - Lowri Steffan
  • Helen - Mair Rowlands
  • Jeff - Richard Elis
  • Martin - Rhodri Evan
  • Katie - Saran Morgan
  • Alun - Sion Alun Davies
  • Claire - Nia Roberts
  • Fran - Caitlin Richards
  • Danny - Paul Morgans
  • Hazel - Rhian Jones
  • Leslie - Bethan Bevan
  • Charlie - Garmon Rhys
  • Tim Gibson - Rhys Parry Jones
  • Tudor - Gareth Milton
  • Reg - Gareth Pierce
  • Elfyn - Dewi Rhys Williams
  • Geraint - Glyn Pritchard
  • Chris - Huw Rhys
  • Robin - Iestyn Gwyn Jones

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[9]
1"Pennod 1 (35 diwrnod ynghynt)"Lee Haven JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts8 Tachwedd 2015 (2015-11-08)29,000
Mae criw o ffrindiau yn mwynhau barbeciw ar brynhawn braf. All bywyd ddim bod yn well. Ond o dan y wyneb mae tensiynau.
2"Pennod 2 (32 diwrnod ynghynt)"Lee Haven JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts15 Tachwedd 2015 (2015-11-15)31,000
Pwy oedd yn gyfrifol am losgi warws Chris? Ond yn bwysicach, pam?
3"Pennod 3 (28 diwrnod ynghynt)"Lee Haven JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts22 Tachwedd 2015 (2015-11-22)51,000
Pam mae Ruth yn gofyn i Claire gasglu gwybodaeth am Tim Gibson? A pam fod Helen mor amheus o Tim?
4"Pennod 4 (24 diwrnod ynghynt)"Lee Haven JonesSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts29 Tachwedd 2015 (2015-11-29)47,000
Wrth deimlo bod y rhwyd yn cau amdano, sut mae Simon yn mynd i achub ei hun? Pa gyfrinach mae Helen wedi bod yn ceisio ei guddio?
5"Pennod 5 (18 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts6 Rhagfyr 2015 (2015-12-06)llai na 24,000
Pa wybodaeth newydd mae Jeff yn ei ffeindio wrth ymchwilio i'r tân yn y warws ar ran ei gefnder Chris?
6"Pennod 6 (13 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts13 Rhagfyr 2015 (2015-12-13)21,000
Beth oedd achos diwedd Jeff? Llofruddiaeth, hunan-laddiad neu ddamwain?
7"Pennod 7 (8 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts20 Rhagfyr 2015 (2015-12-20)llai na 18,000
Pwy yw'r un sy'n dal Helen ynghanol ei scam yn yr eglwys? Lle mae Fran yn mynd i geisio dianc gafael Martin arni?
8"Pennod 8 (2 ddiwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones, Wiliam Owen Roberts27 Rhagfyr 2015 (2015-12-27)llai na 23,000
Beth mae Martin yn penderfynu ei wneud gyda'r corff marw yn ei fflat? Pam fod Chris eisiau Hazel i'w ymweld yn y carchar?

Cyfres 3

[golygu | golygu cod]

Mae'r drydedd gyfres yn symud i gefn gwlad ac yn adrodd hanes teulu fferm Dolwen. Mae plant y teulu yn dod adre wedi marwolaeth eu mam, Mair a caiff manylion ei hewyllys ei ddarllen.

  • Huw - Ifan Huw Dafydd
  • Lissie - Sharon Morgan
  • Tom - Owain Gwynn
  • Josh - Lloyd Meredith
  • Geraint - Geraint Morgan
  • Gwenda - Victoria Pugh
  • Catrin - Grace O'Brien
  • Nia - Mali Jones
  • Sara - Siân Reese-Williams
  • Dafydd - Owain Arthur
  • Ifan - Gwydion Rhys
  • Joy - Heledd Gwynn
  • Gwyndaf - Dafydd Hywel
  • Mair - Gwen Ellis
  • Cynthia - Rae Carpenter
  • Mabli - Cadi-Gwen Sandall
  • Mabon - Efan Arthur Williams
  • Macsen - Sonny Parker Jones

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[9]
1"Pennod 1 (35 diwrnod ynghynt)"Andy NewberySiwan Jones5 Mawrth 2017 (2017-03-05)43,000
Ni fu teulu fferm Dolwen gyda'i gilydd ers dathlu pen-blwydd eu tad Gwyndaf yn 60 oed bum mlynedd ynghynt. Wedi marwolaeth eu mam, mae'r plant yn dod adre' i daenu llwch Mair ond mae ei hewyllys yn ysgytwad mawr iddynt. Mae sawl breuddwyd yn chwalu'n deilchion ac mae Geraint a'i ddwy chwaer Nia a Sara yn amau bod eu Hewyrth Huw wedi perswadio eu mam i newid yr ewyllys. Does dim dewis ond ei herio a mynnu cael y tir yn ôl yn nwylo'r teulu.
2"Pennod 2 (33 diwrnod ynghynt)"Andy NewberySiwan Jones12 Mawrth 2017 (2017-03-12)23,000
Mae penderfyniad eu diweddar fam i drosglwyddo tir Dolwen i'w brawd yng nghyfraith, Huw, wedi gwylltio ei phlant gan greu cynnen yn eu mysg ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen. Efallai bod yr ateb i'w gael yn nyddiadur coll eu mam. A wnaeth Huw ddylanwadu ar Mair? Bydd hi'n anodd cael y tir 'nôl heb orfod mynd at y gyfraith. Dyma'r cur pen mawr i Geraint, Nia a Sara. Ond pam mae Ifan, y mab ieuengaf, mor ddi-hid am y mater? Oes ganddo ryw gyfrinach nad ydy o'n ei rhannu gyda gweddill y teulu?
3"Pennod 3 (30 diwrnod ynghynt)"Andy NewberySiwan Jones19 Mawrth 2017 (2017-03-19)20,000
Mynd o ddrwg i waeth mae'r cweryla rhwng y ddau deulu ar ôl i rywun adael gwartheg Huw yn rhydd ar y ffordd fawr. Mae dod o hyd i ateb i drafferthion ewyllys Mair yn anoddach fyth yn sgil gweithredoedd twp Dafydd a Josh. Mae tensiynau mawr ar aelwyd Dolwen ac mae Geraint, Gwenda, Nia, Sara a Dafydd, yn beio ei gilydd. Mae'r dirgelwch ynglŷn â boddi Gwyndaf drannoeth ei barti pen-blwydd yn dwysau. Pam mae Huw mor awyddus i gyfarfod Ifan ger y llyn? Ac ynghanol yr holl wrthdaro mae marwolaeth Heulyn yn bwrw cysgod dros y presennol.
4"Pennod 4 (24 diwrnod ynghynt)"Andy NewberySiwan Jones26 Mawrth 2017 (2017-03-26)llai na 20,000
Er i Nia geisio cadw ei bywyd priodasol yn breifat, caiff y cyfan ei ddatgelu pan fo Dylan yn galw yn ddirybudd. Daw rhai gwirioneddau i'r amlwg rhwng Ifan a Huw, er bod hyn yn codi mwy o gwestiynau nag atebion ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd rhwng y ddau ar fore boddi Gwyndaf. A fydd genedigaeth Macsen yn fodd o dynnu teulu Dolwen a theulu'r byngalo at ei gilydd? Mae helbulon ariannol Tom a'i gelwyddau diddiwedd yn dechrau blino Lissie, a does dim dal am faint eto y bydd hi'n fodlon ei warchod.
5"Pennod 5 (16 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones2 Ebrill 2017 (2017-04-02)22,000
Parhau mae'r dirgelwch am farwolaeth Gwyndaf gydag Ifan a Huw yn rhoi'r bai ar ei gilydd am ei foddi. Caiff teulu Dolwen dipyn o ysgytwad wrth glywed bod Ifan yn fab i Mair a Huw, a sioc bellach bod Huw am roi'r tir yn enw ei fab. Mae clywed hyn yn gwylltio Tom ac mae'n erfyn ar Lissie i ysgaru ei dad. Ond yn nhy Dolwen, mae ysbryd Heulyn yn mynnu byw trwy Mabli nes dechrau gyrru Gwenda o'i cho'.
6"Pennod 6 (12 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones9 Ebrill 2017 (2017-04-09)21,000
Daw Sara i wybod fod cynlluniau busnes uchelgeisiol gan Geraint ar gyfer Dolwen. Mae Dafydd a Nia yn chwarae gêm beryglus o dan drwyn Sara ond mae hithau'n poeni bod ei breuddwyd o ffermio yn mynd yn ofer. Mae Gwenda yn mynnu bod rhywun wedi ei gwthio i lawr grisiau'r seler. Ac er i Tom geisio ei orau i arbed ei hun rhag mynd i waeth helyntion gyda Cynthia, mae ei dad yn gorfod setlo ei ddyledion - ond am bris.
7"Pennod 7 (7 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones16 Ebrill 2017 (2017-04-16)llai na 21,000
Croesi cleddyfau gyda Gwenda a wnaiff Catrin pan glyw hi am ei bwriad i briodi ei thad. Daw Nia i wybod am gyfrinach ei chwaer ac i sylweddoli bod Sara wedi chwarae gêm gyfrwys iawn gyda hi a Dafydd. Mae mwy o ddirgelion yn dod yn amlwg i deulu Dolwen wrth iddynt geisio dod o hyd i'r gwir am foddi Gwyndaf ond er mwyn cael y tir gwerthfawr yn ddiogel yn eu dwylo mae'n rhaid i Geraint, Nia a Sara roi ffrwyn ar eu cwestiynau. Ond am ba hyd y gellir cadw'r gwir o'r golwg?
8"Pennod 8 (2 ddiwrnod ynghynt)"Rhys PowysSiwan Jones23 Ebrill 2017 (2017-04-23)21,000
Mae Tom yn gwneud ei orau i gael ei fam i riportio ei dad i'r heddlu ac mae Lissie mewn gwewyr meddwl mawr. Oherwydd y tensiynau rhwng Catrin a Gwenda mae Geraint yn gorfodi ei ferch i ddychwelyd adre' i Gaerdydd. Ond ble mae hyn yn gadael ei pherthynas â Josh? A pham nad yw Josh yn ateb ei ffôn? Yn y cyfamser, mae'n rhaid i Geraint gadarnhau ei gynlluniau ond dyw'r tir dal ddim yn nwylo'r teulu. Mae'r pwysau ar Ifan yn waeth nag erioed ac mae hyn yn ei orfodi i weithredu.

Cyfres 4 - 35 Awr

[golygu | golygu cod]

Mae dwy stori yn cyd-redeg yn y gyfres hon, gydag aelodau rheithgor yn trafod achos o lofruddiaeth a’u bywydau cymhleth mewn ystafell llys a gwesty crand; a'r stori yr achos troseddol dan sylw, sy'n datblygu gydag ôl-fflachiadau i'r gorffennol. Mae'r digwyddiadau yn y gyfres hon yn fwy cyflym gan fod y fformat wedi newid o'r cyfresi blaenorol. Yn lle 35 diwrnod, nawr 35 awr sydd i'r llofruddiaeth.

  • Val - Gillian Elisa
  • Moira - Christine Pritchard
  • Haydn - Jâms Thomas
  • Lynwen - Lisa Victoria
  • Mererid - Tara Bethan
  • Taz - Iestyn Arwel
  • Ree - Rebecca Hayes
  • Carwyn - Dafydd Llŷr Thomas
  • Nadine - Lisa Marged
  • Matt - Aled Pedrick
  • Peredur - Carwyn Jones
  • Steve - Gareth John Bale
  • Stewart - Ioan Hefin
  • Susie - Lowri Palfrey
  • Kelvin - Aled ap Steffan
  • Leighton - Sion Eifion
  • Clerc - Elin Llwyd
  • Heulwen - Janet Aethwy
  • Joanne - Mari Beard
  • John - Aron Cynan
  • Rachel - Rhian Morgan
  • Caleb - Iwan Garmon

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[9]
1"Pennod 1 (35 awr i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd6 Ionawr 2019 (2019-01-06)38,000
Mae'r rheithgor - sydd wedi bod yn eistedd yn y llys am ymron i bythefnos mewn achos o lofruddiaeth, yn cael ei rhyddhau i'w hystafell i bwyso a mesur, ac y ddod i ddedfryd. Ond ychydig a wyddant y bydd un ohonynt yn gorff ymhen 35 awr.
2"Pennod 2 (31 awr i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd13 Ionawr 2019 (2019-01-13)28,000
O ganlyniad i fethu a dod i ddyfarniad, mae'r rheithgor yn gorfod cwrdd am ddiwrnod arall. Ond maent mewn peryg. Tra bod Leighton, brawd y diffynnydd, Kelvin, yn rhydd, a'i gariad yn gorwedd rhwng byw a marw mewn ysbyty, mae'r barnwr wedi penderfynu bod yn rhaid i'r rheithgor aros dros nos mewn gwesty.
3"Pennod 3 (24 awr i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd20 Ionawr 2019 (2019-01-20)37,000
Gyda'r rheithgor wedi methu a dod i ddyfarniad, maent wedi eu hanfon i aros mewn gwesty dros nos. Dyw'r trefniant yma ddim wedi mynd i lawr yn dda, ac mae'r gwin yn llifo a'r tensiwn yn cynyddu.
4"Pennod 4 (15 awr i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd27 Ionawr 2019 (2019-01-27)27,000
Mae'n fore ar ein rheithgor. Bore da i rai, ddim cystal i eraill. Mae Val yn dioddef wedi noson o or-yfed, ac yn cofio fawr ddim am y noson gynt - beth felly ddigwyddodd yn ystafell wely Haydn?
5"Pennod 5 (9 awr i fynd)"Eryl Huw PhillipsFflur Dafydd3 Chwefror 2019 (2019-02-03)34,000
Mae'r rheithgor, wedi treulio noson mewn gwesty, yn ôl yn ystafell y rheithgor - ac mae pwysau cynyddol arnynt i gyrraedd dyfarniad.
6"Pennod 6 (5 awr i fynd)"Eryl Huw PhillipsFflur Dafydd10 Chwefror 2019 (2019-02-10)33,000
Gyda dim ond pum awr i fynd, pa un o'r rheithgor fydd yn farw erbyn diwedd y noson, ac ydyn ni rhywfaint yn agosach at ddarganfod os ydy Kelvin yn euog ai pheidio?
7"Pennod 7 (3 awr i fynd)"Eryl Huw PhillipsFflur Dafydd17 Chwefror 2019 (2019-02-17)30,000
Gyda'r oriau'n tician, mae nifer o'r rheithgor mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Beth yw'r gyfrinach mae Lynwen yn ceisio ei gelu rhag Haydn? Pwy sy'n llechu yng ngerddi'r gwesty yn arsylli ar bopeth? A beth fydd tynged Matt?
8"Pennod 8 (1 awr i fynd)"Eryl Huw PhillipsFflur Dafydd24 Chwefror 2019 (2019-02-24)31,000
Mae'r awr fawr dyngedfennol olaf wedi cyrraedd. Eisoes mae dau o gymeriadau'r gyfres yn gyrff ond pa un o aelodau'r rheithgor fydd yn drydydd corff ymhen yr awr, a phwy o'r unarddeg ar ôl fydd yn gyfrifol am y farwolaeth? Dyma oedd y rheithgor o uffern!

Cyfres 5 - Parti Plu

[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres yma yn cychwyn ar ddiwrnod priodas Bethan a Dylan. Mae'r gwesteion yn cynnwys hen ffrindiau ysgol sydd yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf ers 5 mlynedd. Yn y bennod gyntaf, rydym yn gweld fêl priodas a chorff yn y môr. Mae'r stori wedyn yn mynd nôl 35 diwrnod cyn y briodas.

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darlledwyd (S4C) Gwylwyr (S4C)[9]
1"Pennod 1 (35 diwrnod ynghynt)"Rhys PowysFflur Dafydd26 Ebrill 2020 (2020-04-26)32,000
Cyfres newydd, a chorff newydd wedi ei ganfod yn arnofio yn y môr, wedi ei wisgo yn barod am briodas. 35 niwrnod ynghynt, mae Beth y ddarpar briodferch yn cael hwyl gyda'i morwynion priodas a'i ffrindiau oes wrth baratoi am ei diwrnod mawr, ond mae cymylau duon yn bygwth ei hapusrwydd: ymddygiad amheus ei darpar-wr Dylan a chenfigen ei brawd anhapus, Owen. Gall Beth orchfygu ei amheuon am briodi er mwyn cadw ei theulu'n hapus.
2"Pennod 2 (30 diwrnod i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd3 Mai 2020 (2020-05-03)29,000
Mae Beth yn ymweld a'i chartref newydd, ond mae'n dweud celwydd wrth ei chariad am fod yno, sy'n corddi Dylan. Mae gan Efan, ffrind Beth, gyfrinach i'w gwelu ond mae'n codi amheuon yn ei fam Alwen, sy'n benderfynol o wybod y gwir. Daw priodas Bill ac Angharad o dan straen wrth i¿r ddau ofalu am fabi newydd.
3"Pennod 3 (27 diwrnod i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd10 Mai 2020 (2020-05-10)25,000
Gyda 27 diwrnod i fynd, mae Dylan mewn panig wrth ofni bo Beth mewn perygl, ac yn rhuthro i'w hachub. Mae'r pwysau o drefnu priodas a chadw gafael ar y busnes teuluol yn dechrau dweud ar Clive a Nesta sy'n achosi trafferthion i'w mab Owen. Mae ei gyn-gariad Rhian yn cael sioc wrth ddarganfod pwy ydi ei pherthynas newydd.
4"Pennod 4 (21 diwrnod i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd17 Mai 2020 (2020-05-17)25,000
Gyda deg diwrnod ers y bennod olaf, mae Angharad ar dân am wybod pwy sy'n gyfrifol am ganslo'r Parti Plu. Yn ei gartref moethus newydd, beth mae Dylan yn disgwyl i Owen wneud a'r gath ddu, Colsyn. Mae'r tensiwn yng nghartref Angharad a Bill yn cynyddu gydag ymwelydd annisgwyl.
5"Pennod 5 (15 diwrnod i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd24 Mai 2020 (2020-05-24)31,000
Mae'r criw o ffrindiau, ac ambell un ychwanegol, yn cyrraedd tŷ glan môr moethus am benwythnos Parti Plu Beth ond dydi'r trefniadau ddim yn rhedeg yn llyfn.
6"Pennod 6 (13 diwrnod i fynd)"Rhys PowysFflur Dafydd31 Mai 2020 (2020-05-31)32,000
Beth fydd yn disgwyl Angharad wrth iddi agor drws ei chartref ar ôl penwythnos y Parti Plu' Mae Nesta o'r diwedd yn cael yr hyder i ddatgelu ei chyfrinach i'w phlant tra bo Rhian yn gorfod wynebu gwirioneddau anodd am ei gorffennol. Mae meddwl Evan wedi bod ar chwâl ond mae'n galw yn yr oriel ac yn tyrchu drwy gynnwys hen focsys cyn neud darganfyddiad mawr. Daw diwrnod mawr y briodas a'r cyfle i ddarganfod yn union pwy ydi'r corff ar waelod y glogwyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 35 Diwrnod - Awduron
  2. (Saesneg) 35 Days will hit the screens in March after being filmed in tiny cul-de-sac. WalesOnline (27 Chwefror 2014).
  3.  Wedi gwaith caled dros yr Hâf – mae’r aros bron ar ben! (1 Hydref 2015). Adalwyd ar 17 Mawrth 2015.
  4. Forget Cluedo, here's a Welsh TV drama where you can guess whodunnit and win a prize (en) , WalesOnline, 7 Tachwedd 2015. Cyrchwyd ar 17 Mawrth 2017.
  5. Reid, Lucinda (2019-01-04). "Whodunnit? 8 things you need to know about S4C's gripping new drama 35 Awr". walesonline. Cyrchwyd 2019-01-15.
  6. S4C - Dirgel dwys ymysg y bynting a bwffe’r briodas o uffern
  7. 15 Days review – a deeply satisfying Welsh farmhouse murder mystery , theguardian.co.uk, 13 Mai 2019. Cyrchwyd ar 15 Mai 2019.
  8.  Cymeriadau 35 Diwrnod. S4C. Adalwyd ar 22 April 2014.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]