Dafydd Hywel
Dafydd Hywel | |
---|---|
Ganwyd |
1946 ![]() Garnant ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
actor teledu, actor ffilm ![]() |
Actor o Gymro yw Dafydd Hywel (ganwyd Rhagfyr 1945) sydd wedi cael gyrfa hir mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd David Hywel Evans yn y Garnant, Cwm Aman ac mae'n byw bellach yng Nghapel Hendre ger Rhydaman.[1]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n chwarae y cymeriad lliwgar Jac Daniels ar Pobol y Cwm yn yr 1980au. Fe ymddangosodd ar y rhaglen blant Miri Mawr yn chwarae Caleb y Twrch.
Mae wedi actio mewn cyfresi Cymraeg fel Y Pris a Pen Talar, y ffilmiau Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion ac Yr Alcoholig Llon ymysg eraill. Yn Saesneg mae wedi actio mewn cyfresi fel The Indian Doctor, The Bill a Holby City.
Yn ddiweddar, mae wedi bod yn un o sêr y gyfres Stella.[2]
Mae'n brif weithredwr Cwmni Mega, sydd wedi cynhyrchu pantomeimau Cymraeg yn flynyddol ers 1994.[3] Cyhoeddodd ei hunangofiant Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant yn 2013.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
|