Wilbert Lloyd Roberts

Oddi ar Wicipedia
Wilbert Lloyd Roberts
Ganwyd1926 Edit this on Wikidata
Llanberis Edit this on Wikidata
Bu farw1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd radio, cynhyrchydd theatrig Edit this on Wikidata

Cynhyrchydd drama o Gymro oedd Wilbert Lloyd Roberts (1926 – Tachwedd 1996). Sefydlodd y cwmni proffesiynol Cymraeg cyntaf – Cwmni Theatr Cymru yn yr 1960au.[1]

Ganwyd Wilbert yn 7 Rhes y Faenol, Llanberis. Yn 2017 gosodwyd plac ar y tŷ yn ei ddisgrifio fel 'Arloeswr y theatr Gymraeg'.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe’i hapwyntiwyd yn gynhyrchydd drama radio gyda BBC Cymru tua chanol y pumdegau. Ar y pryd roedd cnewyllyn bychan o actorion proffesiynol yn nhair canolfan BBC Cymru ym Mangor, Abertawe a Chaerdydd. Er hynny amaturiaid brwdfrydig oedd y mwyafrif o berfformwyr ym myd y ddrama. Llwyddodd Wilbert i ddenu cnwd o actorion amatur i weithio ar lwyfan, ar y radio, ac yn ddiweddarach i ymgodymu â sialens newydd y stiwdio deledu.

Yn 1965, fel cyfarwyddwr o adran Gymraeg y 'Welsh Theatre Company', teithiodd ei gynhyrchiad o Cariad Creulon o gwmpas Cymru dan yr enw Cwmni Theatr Cymru. Yn ogystal, cychwynnodd Wilbert gylchgrawn theatr o'r enw Llwyfan.[3]

Erbyn 1972 sefydlwyd Theatr Cymru fel cwmni annibynnol gyda hen gapel Tabernacl, Bangor yn gartref i'r cwmni.[4] Ar y cychwyn cynigiwyd contract llawn-amser i dri actor.

Yn 1974, wedi trafodaethau hir gyda Phrifysgol Bangor, sefydlwyd Theatr Gwynedd a daeth Wilbert yn gyfarwyddwr cyntaf y sefydliad. Wedi cyfnod cythryblus i'r cwmni, ymddiswyddodd Wilbert yn 1982. Wedi hynny arweiniwyd y cwmni gan Emily Davies wedi ei chynorthwyo gan Ceri Sherlock. Daeth Theatr Cymru i ben yn Ionawr 1984 pan diddymwyd eu grant gan Gyngor y Celfyddydau.

Caewyd Theatr Gwynedd yn Hydref 2008 a datblygwyd cynlluniau am theatr newydd fel rhan o gynllun Pontio, a agorodd yn 2015. Yn Rhagfyr 2016, dadorchuddiwyd gerflun o Wilbert sydd wedi ei osod yn barhaol yn nghanolfan Pontio.[5]

Yn dilyn ei ymddeoliad o'r theatr, cychwynodd gwmni teledu annibynnol ‘Ffenics’.[3]

Wedi ei farwolaeth yn 1996 sefydlwyd ysgoloriaeth goffa iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 1999 ac mae'n gwobrwyo y cystadleuydd mwyaf addawol er mwyn iddo/iddi ddatblygu gyrfa fel perfformiwr theatrig broffesiynol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Beti (1927-2008) a cawsant ddau o blant, Ann Llwyd a Elin Roberts-Puw.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Owen, George (Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997). TEYRNGED - Wilbert, arloeswr. Barn.
  2. Eco'r Wyddfa Nadolig 2017
  3. 3.0 3.1 Bangor's Pontio Arts and Innovation Centre unveils sculpture in memory of Wilbert Lloyd Roberts (en) , Daily Post, 19 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd ar 3 Ebrill 2023.
  4. (Saesneg) Theatr Cymru 1972 – 1984. Blog Martin Morley (16 Medi 2018).
  5. Theatre founder Wilbert Lloyd Roberts sculpture unveiled (en) , BBC News, 19 Rhagfyr 2016.
  6.  Dadorchuddio cerflun o Wilbert Lloyd Roberts. Pontio (18 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 4 Ebrill 2023.