Cwmni Theatr Cymraeg a fu'n weithredol rhwng 1965 a 1984 oedd Cwmni Theatr Cymru neu Theatr Cymru. Ystyriwyd y cwmni yn rhyw lun o ddelfryd o Theatr Genedlaethol i Gymru, ac yn rhagflaenydd i Theatr Genedlaethol Cymru. Sefydlwyd y Cwmni gan Wilbert Lloyd Roberts oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr yn adran Gymraeg y Welsh Theatre Company.
Mae peth amwysedd ynglŷn ag union ddyddiad creu Cwmni Theatr Cymru, gan fod y Welsh Theatre Company wedi dechrau llwyfannu cynyrchiadau Cymraeg fel Cariad Creulon (1965), Pros Kairon (1966), Saer Doliau (1966) a Cymru Fydd (1967). Ond ar ddechrau 1968, cyflogwyd y tri actor llawn amser cyntaf sef Beryl Williams,Gaynor Morgan Rees a John Ogwen, oedd yn dibynnu’n llwyr ar waith theatr yn y Gymraeg.[1] Mae Meic Povey yn honi yn ei hunangofiant Nesa Peth At Ddim mai dim ond fo ac Wilbert Lloyd Roberts oedd y ddau gyntaf yn "Stryd Waterloo: hanner dwsin o gadeiriau; teliffon neu ddau; Wilbert a fi. Na, nid plot ar gyfer drama newydd gan Gwenlyn ond disgrifiad o Gwmni Theatr Cymru ar y cychwyn. Yn fuan, cyrhaeddodd ysgrifenyddes, Maud Oliver (cesan ar y naw), ac yn olaf yr actorion ar gyfer y cynhyrchiad agoriadol, sef tair drama fer gan Eugène Ionesco:Merthyron Dyletswydd, PedwarawdacY Tenant Newydd."[2]
Bu 1968 yn flwyddyn hynod o brysur i'r cwmni, am iddynt lwyfannu sawl cynhyrchiad, gan gynnwys drama broblematig Saunders LewisProblemau Prifysgol a drama newydd Gwenlyn Parry, Tŷ Ar Y Tywod.[1] Yn fuan wedyn, gwelwyd sefydlu 'cynllun hyfforddi' i feithrin a hyfforddi actorion, gyda Gwyn Parry, Dafydd Hywel, Grey Evans, Dylan Jones a dyrchafiad Meic Povey ymysg y cyntaf. Ymunodd Marged Esli, Dyfan Roberts, Huw Davies, Nia Von, Sharon Morgan a maes o law, Christine Pritchard gyda'r ail gynllun.[2][3] "Ein hathrawon ar y cynllun hyfforddi o'dd W. H. Roberts yn dysgu llefaru, Betty Roberts, gwraig Wilbert, yn dysgu canu, Einir Jones yn dysgu dawns, Wilbert ei hun yn dysgu theori a hanes y ddrama, a Beryl Williams yn dysgu technegau actio," yn ôl Sharon Morgan.[3] "O'n ni'n griw digon amrwd a lletchwith [...] Er bod yr athrawon i gyd yn wych, Beryl o'dd eilun pawb. Fe wnaeth hi'n hollol glir ein bod ni'n gwbwl anwybodus ac nad o'dd y syniad lleia ganddon ni shwt i siarad, cerdded na symud ar lwyfan. Buodd rhaid i ni anghofio popeth o'n ni'n ei wybod a dechre o'r dechre. Trwy ddechre â dalen lân, niwtral bydde modd i ni greu cymeriad o'r newydd."
Yn ei ragymadrodd i gyhoeddiad drama Gwenlyn Parry, Tŷ Ar Y Tywod ym 1969, blwyddyn ar ôl i'r Cwmni lwyfannu'r ddrama am y tro cyntaf, fe ddywed y darlledwr Aneirin Talfan Davies :
"Yn fy rhagair i Saer Doliau awgrymais rai o amodau bywyd yr artist o ddramodydd yn y Gymru ddi-theatr sydd ohoni heddiw. Yr o'dd hyn ym 1966. Yr ydym yn awr yn tynnu tua diwedd y chwedegau ac yn dal i ddisgwyl am osod seiliau Theatr Genedlaethol, a fyddai'n siop waith i gynhyrchwyr, actorion ac awduron. Nid yw'r sefyllfa heddiw ronyn fwy gobeithiol nag ym 1966, ac mae'n ymddangos i mi y bydd gennym eto flynyddoedd lawer cyn y gwelwn ni godi'r theatr hon. Felly, fe fydd yn rhaid i Gymru ddibynnu, fwy neu lai, ar gwmni peripatetig, Y Cwmni Theatr Genedlaethol a BBC Cymru. Am amryw o resymau, mae'n debyg mai'r BBC fydd yn dal pen trymaf y baich."[4]
Cwmni Theatr Cymru yn paratoi at y pantomeim Mawredd Mawr 1971
Tua chanol y 1970au, fe grëwyd Theatr Antur [gweler isod] oddi mewn i'r prif gwmni, fyddai'n cynnig cynyrchiadau mwy arbrofol a heriol.
"Pan ddechreues i, sinema'r Fforwm ym Mlaenau Ffestiniog, Pafiliwn Corwen a neuadde ysgol o'dd y mannau Ile bydden ni'n perfformio", yn ôl Sharon Morgan, "a'r rheiny'n lleoedd cwbwl anaddas. Ond o fewn pum mlynedd i fi ddechre 'ngyrfa fe adeiladwyd saith theatr ysblennydd, sawl un ohonyn nhw mewn lleoliade annisgwyl iawn. Theatr y Werin a Theatr Felinfach yn 1972, Theatr y Sherman a Theatr Ardudwy yn 1973, Theatr Gwynedd yn 1975, Theatr Clwyd yn 1976 a Theatr Taliesin yn 1977. Mynnai Wilbert wneud pethe'n iawn a bydde rheolwr blaen y tŷ yn ei DJ a'i dei-bow, yn union fel petaen ni yn y West End," ychwanegodd.[3]
Dros y blynyddoedd, bu sawl cyfarwyddwr yn llwyfannu gwaith i'r Cwmni gan gynnwys David Lyn, George P Owen, Ceri Sherlock, Emily Davies a John Hefin. Bu'r cwmni hefyd yn hyfforddi dramodwyr a thechnegwyr newydd i'r Theatr Gymraeg fel y cynllunydd Martin Morley, y 'trydanwr' Mici Plwm a'r dramodydd Wil Sam Jones. Comisiynwyd dramodwyr nodedig fel Huw Lloyd Edwards yn ogystal, a llwyfannwyd dramâu fel Pros Kairon am y tro cyntaf.
Cyflwynwyd y Theatr am y tro cyntaf i filoedd o blant Cymru drwy'r Pantomeimiau blynyddol o'r 1970au a'r 1980au.
Tua diwedd y 1970au, mae'n amlwg bod cryn anniddigrwydd wedi codi ymysg yr actorion ifanc, gyda nifer ohonynt yn anhapus iawn gydag agwedd "unbeniaethol" Wilbert Lloyd Roberts. Aethant ymaith, gan sefydlu nifer o gwmnïau theatr eu hunain fel Theatr Bara Caws, Theatr Ddieithr a Theatr Yr Ymylon. Parhaodd Wilbert yn ei swydd tan 1982, cyn ymddiswyddo. Daeth y Cwmni wedyn i ddwylo'r darlithydd drama a chyn-actores Emily Davies gyda Ceri Sherlock yn ei chysgodi. Daeth Emily â'i phrofiad a'i dylanwad o'r Theatr Ewropeaidd efo hi i'r swydd, ac ail-sefydlwyd y cwmni craidd o actorion. Yn ôl yr actor Dafydd Hywel, y "camgymeriad" wnaeth Emily Davies oedd dewis ei chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth fel aelodau o'r cwmni craidd, a barodd gryn wrthdaro iddo yn ymarferion ei chynhyrchiad o Noa, ym 1982.[5] Roedd y dewis i lwyfannu'r sioe Noa gan y Ffrancwr André Obey, yn hytrach na'r pantomeim blynyddol, hefyd yn ddadleuol, fel eglurwyd yn Rhaglen y cynhyrchiad:
"Ond nid ymwrthod â phantomeim wnaeth Emily Davies wrth lunio ei rhaglen ar gyfer y gyntaf o'i thair blynedd fel Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni. Ers ei phenodiad yn ystod yr haf ni fu ganddi'r amser angenrheidiol i baratoi a chomisiynu pantomeim ar gyfer eleni. Yn ei le dewisodd gynhyrchiad sydd cyn debyced i bantomeim â dim, cynhyrchiad sydd yr un mor atyniadol a chyda'r un apel. Yn wahanol iawn i bantomeimiau'r Cwmni yn y gorffennol mae Noa yn seiliedig ar stori gyfarwydd ac adnabyddus: un y dilyw o'r Hen Destament. Diau y golyga hyn y gall y plant ei ddilyn yn llawer gwell na phantomeim nad ydynt yn gyfarwydd â'r stori. Fel pantomeim mae Noa yn gynhyrchiad lliwgar, bywiog sy'n llawn doniolwch a ffraethineb. Ceir ynddo hefyd ddawnsio a meim a phrif gymeriad fydd yn llawn mor gofiadwy â Guto Nyth Cacwn, Micos [o'r panto Mwstwr Yn Y Clwstwr] a'r gweddill. Bydd i Noa hefyd apêl ymysg y rhai hynny nad ydynt yn mwynhau pantomeim. Nid oes ynddo sŵn aflafar band ac yn yr amryw gyffyrddiadau dwysach, diau y bydd digon i gnoi cil wedyn."[6]
Ond er gwaethaf cynnal y cwmni am dros flwyddyn, methwyd â dal ati, felly daeth y Cwmni i ben ym 1984.
Roedd Dyfan Roberts, Valmai Jones a Sharon Morgan ymysg yr actorion oedd wedi'u cyflogi gan Gwmni Theatr Cymru, tua chanol y 1970au. Mae Sharon yn cofio, mai yn dilyn gwylio rhaglen deledu am gwmni theatr heriol John McGrath yn yr Alban, y daeth y syniad i greu cwmni theatr newydd a heriol yn y Gymraeg; Cwmni fyddai, yn y pendraw, yn creu Theatr Bara Caws. Ond yn gyntaf, crëwyd cnewyllyn oddi mewn i Gwmni Theatr Cymru, oedd yn cynnwys yr actorion Gwyn Parry, Grey Evans ynghyd â Sharon, Dyfan a Valmai. Eu bwriad oedd i lwyfannu sioeau gwahanol i'r theatr Glasurol a saff, roedd Cwmni Theatr Cymru yn ei lwyfannu. Galwyd y prosiect yn Theatr Antur a daeth Iestyn Garlick atynt i fod yn rhan o'r antur newydd.[7]
"Am y tro cyntaf erioed 'roeddwn yn ymwybodol fod yna actorion a chynhyrchwyr wedi trwytho'u hunain yn eu gwaith; eu bod wedi ceisio ymarfer, disgyblu a pherffeithio'u rheolaeth dros eu dawn yn gorff, dychymyg ac enaid. 'Roeddynt wedi llwyddo i fynnu digonedd o amser i alluogi grŵp o unigolion i droi'n uned ymroddgar [...] Pwy yw'r bobl ifanc yma sydd wedi gweld yr angen am newid? Yn sicr pobl ydynt sydd wedi cael yr amser i fyfyrio dros ddatblygiadau byd-eang ym myd y ddrama, ac wedi derbyn y cyfle i ymarfer, darganfod ac arbrofi. Pobl sydd yn gwybod beth o'r gloch yw hi ym myd y theatr Gymraeg; a'i bod yn hen bryd i edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol. Pobl ydynt sydd wedi sylweddoli nad yw'r symud newydd yma yn mynd i ddatblygu o du yr actorion proffesiynol. Ag eithrio ychydig o'r rhai ifainc tebyg i aelodau cwmni Byw yn y Wlad, mae'r stad broffesiynol yn prysur lygru y theatr a'r cyfryngau"[8]
Byw Yn Y Wlad oedd enw cynhyrchiad cyntaf Theatr Antur, a mynd ymlaen i ganmol "cynnyrch Adrannau Drama ein colegau [...] yn Golegau Hyffroddi a Phrifysgol" wnaiff hi yn erthygl uchod.[8]
Mae peth anghytuno ynghylch pwy yn union oedd yn gyfrifol am y syniad craidd, gyda rhai yn honi mai syniad Wilbert Lloyd Roberts ei hun oedd o, tra bod eraill yn taeru mai'r actorion ifanc eu hunain oedd wedi gofyn i Wilbert greu'r is-gwmni. Ond mae'r "pobl ifanc yma sydd wedi gweld yr angen am newid" y sonia Emily Davies amdanynt, yn adlais sicr o'r newid a fu yn hanes Cwmni Theatr Cymru ar gychwyn y 1980au.