Pontio

Oddi ar Wicipedia
Pontio
Enghraifft o'r canlynoltheatr, canolfan y celfyddydau, sinema, canolfan gynadledda, theatr, neuadd gyngerdd, canolfan gymunedol Edit this on Wikidata
LleoliadBangor Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrPrifysgol Bangor Edit this on Wikidata
RhanbarthBangor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.pontio.co.uk/ Edit this on Wikidata

Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae'n adeilad chwe llawr ar ar hen safle Theatr Gwynedd. Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri Grimshaw, ac mae ynddo theatr hyblyg, canolig ei faint, wedi ei enwi ar ôl y canwr byd-enwog, Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200, canolfan arloesi ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr gan gynnwys swyddfeydd Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnig bwyd a diod. Fe'i lleolir ar Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ.[1]

Mae Pontio yn cynnig adloniant yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys ffilmiau, cerddoriaeth a drama, gigs, sioeau plant, a sioeau cabaret.[1] Agorwyd y ganolfan yn swyddogol, wedi oedi, ym mis Tachwedd 2015.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Pontio, 2021

Dechreuwyd ar waith adeiladu Pontio yn 2012 fel prosiect gwerth £50 miliwn. Adeiladwyd hi ar safle'r hen Theatr Gwynedd a'r bwriad oedd i agor ym mis Medi 2014 ond cafwyd oedi ar y prosiect. Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor ar y pryd, ei fod yn "bleser enfawr" i fanylu ar y "cyfleusterau ardderchog" fydd ar gael i'r cyhoedd.[3]

Amcan gost y prosiect oedd £37m, gydag addewid creu 900 o swyddi ym Mangor. Cafwyd protestiadau ar ddechrau'r gwaith nad oedd lle teilwng i'r Gymraeg yn y cynllunio.[4]

Dywedodd Jerry Hunter ei bod hi "wedi bod yn daith anodd, ond nawr ry'n ni wedi creu canolfan arloesol am wyddoniaeth a'r celfyddydau ym Mangor".[5]

Agorwyd yr adeilad ar 29 Tachwedd 2015 gyda perfformiad acrobataidd cwmni 'Pirates of Carabina'. Daeth mil o bobl i'r diwrnod agored gyntaf. Cafwyd hefyd berfformiad a gomisiynwyd yn arbennig i'r agoriad o'r enw Disgleirio/Shine yn cynnwys plant Ysgol Glancegin a Glanadda yn gweithio gyda prosiect ymwneud pobl ifanc y ganolfan, BLAS.[2]

Yr Adeilad[golygu | golygu cod]

Canolfan Pontio gan ddangos ei chyd-destun gyda'r hen Brifysgol tu ôl iddi

Lefel 0 - Cyntedd[golygu | golygu cod]

Ar Lefel 0 mae'r prif gyntedd. Yma ceir y Dderbynfa, y Swyddfa Docynnau a bar Ffynnon yn ogystal â'r drysau sy’n arwain at seddi llawr Theatr Bryn Terfel a'r Sinema 200 o seddi. Gellir trawsnewid awditoriwm hyblyg Theatr Bryn Terfel o theatr draddodiadol 450 sedd gyda bwa prosceniwm, i theatr gron gyda lle i 500 o bobl sefyll mewn gig.

Lefel 1[golygu | golygu cod]

Ceir y prif ddrysau i'r Sinema ac i Falconi 1 Theatr Bryn Terfel.

Mae toiledau a chyfleusterau newid babis wedi eu lleoli yma hefyd ar Lefel 1.

Lefel 2[golygu | golygu cod]

Ceir man agored; Caffi Cegin, mynediad at Falconi 2 Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, y Bocs Gwyn a Darlithfa 2.

Mae'r Theatr Stiwdio yn cynnwys 120 o seddau ar gyfer digwyddiadau mwy agos-atoch, ac mae hefyd yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol a chymdeithasau myfyrwyr.

Lefel 3[golygu | golygu cod]

Lleoliad yr Hwb - man Arloesi Pontio. Bwriad Man Arloesi Pontio yw rhoi i unigolion a busnesau sgiliau a fydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr economi fodern. Mae'r pwyslais ar weithio ar draws disgyblaethau a phrototeipio cyflym, ac mae Co-Lab, Media Lab, Hackspace a Fablab yn gartref i dechnolegau blaengar. Bydd yn hwb i raglenni dysgu traws-ddisgyblaethol y brifysgol ac yn annog cydweithio rhwng myfyrwyr, staff a busnesau lleol.[angen ffynhonnell]

Lefel 4[golygu | golygu cod]

Lleoliad swyddfeydd a chyfleusterau cyfarfodydd Undeb Myfyrwyr Bangor.

Lefel 5[golygu | golygu cod]

Ar lefel uchaf Pontio ceir darlithfa fawr gyda lle i hyd at 450 ynghyd â dau fan dysgu cymdeithasol helaeth.

Ceir yna golygfeydd ar draws Bangor. O Lefel 5, gellir cerdded allan yn syth i Allt Penrallt, dim ond tafliad carreg o Brif Adeilad y Brifysgol.[1]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Croeso i Pontio". Gwefan Pontio. Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.
  2. 2.0 2.1 "Pontio centre opens its doors to the public in acrobatic 'Welcome Day'". Wales Online. 29 Tachwedd 2015.
  3. "Canolfan Pontio ar fin agor ym Mangor". BBC Cymru Fyw. 23 Hydref 2015.
  4. "Protest yn amharu ar lansiad swyddogol Pontio". Golwg360. 2011.
  5. "Canolfan Pontio ar fin agor ym Mangor". BBC Cymru Fyw. 23 Hydref 2015.