Theatr Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Theatr Gwynedd
Maththeatr, sinema Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBangor, Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.227644°N 4.128864°W Edit this on Wikidata
Map

Theatr yn ninas Bangor, Gwynedd, oedd Theatr Gwynedd. Cafodd ei sefydlu yn nyddiau'r hen Wynedd i wasanaethu gogledd y sir (yn cynnwys Ynys Môn). Bu'n weithredol rhwng 1975 a 2008[1], fe gafodd yr adeilad ei dymchwel er mwyn gwneud lle i ganolfan newydd Pontio. Arianwyd Theatr Gwynedd yn rhannol gan Prifysgol Bangor ond daeth ei dyfodol yn y fantol ar ddechrau'r 2000au am nad oedd y brifysgol yn barod i barhau â'r hen drefniant ariannu.

Yn ogystal â bod yn theatr lwyfan a chartref i Theatr Bara Caws, roedd Theatr Gwynedd yn sinema a chanolfan arddangosfeydd.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Roedd safle'r theatr yn gorwedd ar Ffordd Deiniol, ger y brifysgol yng nghanol Bangor.

Yr adeilad o'r tu allan ar ôl i'r theatr gau.

Cwmni Theatr Gwynedd[golygu | golygu cod]

Bu cwmni theatr yn gysylltiedig â'r theatr rhwng 1986 a 2003.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Theatr Gwynedd Memories". Cyrchwyd 2019-08-05.
  2. Cadw'r freuddwyd yn fyw, Menna Baines. Barn Gorffennaf/Awst 1998
  3. Remembering Theatr Gwynedd Copi archif o wefan BBC North West Wales, diweddarwyd ddiwethaf 25 Medi 2008

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato