Ceri Sherlock
Ceri Sherlock | |
---|---|
Ganwyd | Ceri David Sherlock Mawrth 1958 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr |
Cyfarwyddwr ffilm, teledu a theatr yw Ceri Sherlock (ganwyd Mawrth 1958).[1] Bu’n gweithio’n helaeth fel cyfarwyddwr ym myd yr opera a’r theatr, gan weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i Jonathan Miller ac yna gyda Peter Stein yn y Schaubuhne, Berlin. Bu’n cyfarwyddo cynyrchiadau operatig yn Nice, Dulyn, Vancouver, Halle, Brwsel, Wexford a Glasgow, a bu’n gweithio ym myd theatr gerddorol gyfoes hefyd.[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cafodd ei addysgu yn Ysgol Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri, Coleg y Brenin, Llundain a Prifysgol Califfornia, Los Angeles. Gweithiodd fel cyfarwyddwr o dan hyfforddiant ac fel cyfarwyddwr gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Ym 1982, yn dilyn ymadawiad Wilbert Lloyd Roberts â Chwmni Theatr Cymru, a phenodiad Emily Davies fel yr arweinydd artistig newydd, cafodd Sherlock gyfle i'w chysgodi yn ei swydd. Bu'n is-gyfarwyddwr a chyfarwyddwr ar sawl cynhyrchiad rhwng 1982 a 1984.
Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig yr Actors Touring Company yn Llundain ac yn rhan o'r criw a sefydlodd y cwmni theatr Theatrig.[2]
Cafodd ei benodi yn Olygydd Comisiynu gydag S4C cyn symud i'r BBC yn 2006. Arferai fod yn Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Morgannwg, ond ad-leolodd i Hong Cong yn 2010 lle cafodd ei benodi'n Athro a Phennaeth Cyfarwyddo Academi Gelfyddydau Creadigol Hong Kong.[3]
Fe briododd yn Beijing yn 2017 a dychwelodd i Ewrop yn 2018 ble mae'n parhau ar ei waith creadigol.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Torri Gair (1982) cyd-gyfarwyddwr ag Emily Davies - Cwmni Theatr Cymru
- Noa (1982/83) cyd-gyfarwyddwr ag Emily Davies - Cwmni Theatr Cymru
- Tŷ Ar Y Tywod (1983) cyfarwyddwr - Cwmni Theatr Cymru
- Guernica (1983) cyd-gyfarwyddwr ag Emily Davies - Cwmni Theatr Cymru
- Siwan (1983) cyd-gyfarwyddwr ag Emily Davies - Cwmni Theatr Cymru
- Tair Comedi Fer (1983) cyd-gyfarwyddwr ag Emily Davies - Cwmni Theatr Cymru
- Tair Chwaer (1984) cyfieithiad o waith Anton Chekov; cyfarwyddwr - Cwmni Theatr Cymru
- Matchplay (1984)
- The Triumph of Love (1989) [4]
- Mozart & Salieri (1991) fel dramodydd [5]
- Y Bacchai (1991) Dalier Sylw
Teledu a ffilm
[golygu | golygu cod]- Atgof (1991)
- Dafydd (1993)
- Fallen Sons (1994)
- Branwen (1995) y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd.[6]
- Cameleon (1997)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ceri David SHERLOCK personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ 2.0 2.1 "Ceri Sherlock - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ Culture Colony
- ↑ "Ceri Sherlock | Theatricalia". theatricalia.com. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ "Ceri Sherlock - Playwright". www.doollee.com. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ Screen, Gaeaf 1995