Dalier Sylw
| Enghraifft o: | cwmni theatr |
|---|---|
| Daeth i ben | 2000 |
| Iaith | Cymraeg |
| Dechrau/Sefydlu | 1988 |
| Pencadlys | Caerdydd |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Cwmni Theatr Gymraeg oedd Dalier Sylw a fu'n weithgar rhwng 1988 a 2000. Sefydlwyd y cwmni yng Nghaerdydd ym 1988 gan Bethan Jones, Peter Edwards, Siôn Eirian ac Eryl Huw Phillips, i ateb yr angen am gwmni theatr Cymraeg yn y brifddinas.[1] Datblygodd i fod yn un o'r cwmnïau theatr mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd, yn cyflwyno gwaith mewn lleoliadau arbennig ac yn teithio ledled Cymru. Bu'r cwmni yn flaenllaw mewn llwyfannu rhai o ddramâu newydd dramodwyr Cymraeg yn y 1990au; dramodwyr fel Meic Povey - Wyneb Yn Wyneb (1993), Fel Anifail (1995) a Tair (1998); Siôn Eirian - Epa Yn Y Parlwr Cefn (1994); Geraint Lewis - Y Cinio (1995) a John Owen a Gareth Miles.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Amcanion artistig y cwmni oedd
- comisiynu dramâu a chyfiethiadau newydd gan awduron cyfoes Cymraeg
- llwyfannu cynyrchiadau gweledol, heriol a dramâu testunol
- datblygu gwaith dwy-ieithog.
Ymfalchïodd Dalier Sylw mewn darparu cyfleoedd cyson i ddramodwyr Cymreig gael datblygu gwaith newydd; gwaith fu'n ran blaenllaw yn y broses o ddatblygu'r theatr Gymraeg, gan ddarparu ffocws ar gyfer diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd a thu hwnt i'r ffin.
Dathlodd y Cwmni ei ddegfed penblwydd cyn dod i ben yn 2000.[2] Gadawodd Dalier Sylw waddol hynod o werthfawr o sgriptiau cyhoeddedig Cymraeg - rhai ohonynt wedi'u cyhoeddi ar y cyd â'r CAA.
Mae'r dramodydd Meic Povey yn rhoi'r bai am derfyn y cwmni ar y penderfyniad i gyflwyno dramâu Saesneg, fel ddigwyddodd yn hanes Theatr yr Ymylon ym 1980: "Digwyddodd yr un peth i Dalier Sylw, cwmni arloesol iawn yn y nawdegau, yn llwyfannu dramâu gwreiddiol yn y Gymraeg dan arweiniad cadarn Bethan Jones. Oddeutu 2000, esblygodd yn Sgript Cymru, cwmni dwyieithog, [...] Yn sgil yr esblygiad teimlais i'r arlwy Cymraeg fynd bron yn eilbeth." [3]
Cyfarwyddwyr artistig
[golygu | golygu cod]Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]1980au
[golygu | golygu cod]- Adar Heb Adenydd (Mai 1989) drama Gymraeg gyntaf Ed Thomas[4]
- Dadl Dau (Tach 1989)
1990au
[golygu | golygu cod]- 1990
- Bermo Yn Y Nos (Mawrth 1990) William Owen Roberts; cyfarwyddwr Peter Edwards; cynllunydd Angharad Roberts; cast: Phil Reid, Bethan Dwyfor, Alun Elidir a Judith Humphreys.

- Hunllef yng Nghymru Fydd (Haf 1990) Gareth Miles; cyfarwyddydd Bethan Jones; Llwyfanwyd y ddrama'n wreiddiol yn Llancaiach Fawr, Nelson yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni.
- Largo Desolato (Tach 1990) Vaclav Havel cyf Sion Eirian; cyfarwyddydd Bethan Jones;
- 1991
- Bacchai (Hyd 1991) Ewripides cyf Gareth Miles;
- Mysgu Cymyle (Mawrth 1991) Branwen Cennard
- 1992
- Simone Weil - Y Forwyn Goch (Haf 1992) Menna Elfyn; cyfarwyddydd Bethan Jones;
- 1993
- Wyneb Yn Wyneb (1993) Meic Povey; cyfarwyddydd Bethan Jones.
- i - Jim Cartwright (1993) cyf John Owen
- 1994
- Calon Ci (1994) Gareth Miles ar ôl Mikhail Bulgakov; cyfarwyddydd Bethan Jones;
- Epa Yn Y Parlwr Cefn (1994) Siôn Eirian; cyfarwyddydd Bethan Jones;
- 1995
- Y Cinio (1995) Geraint Lewis; cyfarwyddydd Bethan Jones;
- Fel Anifail (1995) Meic Povey; cyfarwyddydd Bethan Jones; cast Owen Garmon a Christine Pritchard.
- The Language Of Heaven (1995) Geraint Lewis
- 1996
- Meindiwch Eich Busnes (1996) Geraint Lewis
- Croeso Nôl (1996) Tony Marchant cyf John Owen
- Y Groesffordd (1996) Geraint Lewis drama hir fuddugol
- 1997
- Bonansa (1997) Meic Povey
- Ffrwyth Llafur (1997) - dramâu buddugol Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996; Spam Man Dafydd Llewelyn Jones a Cnawd Aled Jones Williams
- Mayosata (1997) Sera Moore Williams
- 1998
- Y Cinio (1998) Geraint Lewis (ail-deithio)
- Tair (1998) Meic Povey - Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998; cyfarwyddydd Bethan Jones; cast: Lisabeth Miles, Betsan Llwyd a Catrin Powell
- 1999
- Y Madogwys (1999) Gareth Miles
2000au
[golygu | golygu cod]- Radio Cymru [neu Radio Metropole] (2000) William Owen Roberts
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhaglen Calon Ci - Dalier Sylw. 1993.
- ↑ "Cwmni Theatr Dalier Sylw". www.users.globalnet.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.
- ↑ Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch.
- ↑ Thomas, Ion (Mehefin 1989). "Ceisio Hedfan". Barn 317.