Siwan (drama)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siwan gan R Owain.jpg
Clawr 'Siwan' - rhifyn CBAC, 2000
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol drama Edit this on Wikidata
Awdur Saunders Lewis
Cyhoeddwr Llyfrau'r Dryw
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Genre Drama
Dynodwyr

Drama fydryddol gan Saunders Lewis yw Siwan, sydd wedi ei seilio ar y cymeriad hanesyddol Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Lleolir y ddrama yn Abergwyngregin, ar arfordir gogleddol Gwynedd. Ysgrifennodd Saunders y ddrama Siwan yn 1954 a chafodd ei chyhoeddi yn 1956, ac mae'r ddrama yn un o'r clasuron Cymraeg.

Yn y ddrama, canfyddir Siwan a'i chariad Gwilym Brewys (William de Braose) gan ei gŵr sef y Tywysog Llywelyn Fawr. Mae'n crogi Gwilym, cosb a roddir fel arfer i ladron. Mae'r weithred hon yn gwneud gosodiad tra phwysig a heriol gan fod Llywelyn wrth wneud hyn yn tynnu holl rym Lloegr ar ei ben. Ar yr un pryd, mae'r weithred yn dyrchafu Llywelyn i awdurdod brenin eofn a chadarn.

Addaswyd y ddrama gan Robin Llwyd ab Owain ar gyfer disgyblion uwchradd (Cyhoeddwyd gan CBAC; ISBN 1 86085 4117; Mawrth 2000). Mae'r ddrama yn rhan o faes llafur Lefel A ers rai blynyddoedd.

"Siwan ydy'r ebychiad sicr cyntaf mae Saunders Lewis yn ei wneud," ebe Bobi Jones. Cyfrifir Siwan a Blodeuwedd fel clasuron y ddrama Gymraeg.[1]

Cymeriad Siwan[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel amrywiaeth o’r cymeriadau yn y ddrama, mae Siwan yn ymddangos yn gymeriad aruchel iawn. Un o brif themâu’r ddrama yw diffyg cydnabyddiaeth pobl o'i gilydd ac mae hynny’n amlwg iawn wrth astudio Siwan a’i pherthynas â'i gwr Llywelyn fawr. Mae gwleidyddiaeth wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Siwan, a hithau’n ferch i'r Brenin Lloegr. Caiff ei dyletswydd fel tywysoges ei bwysleisio o’r dechrau gyda’r ‘Wisg arian’ a’r ‘goron’ yn cael eu trafod yn llinellau agoriadol y ddrama. Mae ganddi egni nwydwyllt ei thad yn aml iawn ac mae elfennau Cymraeg a Ffrangeg yn gwrthdaro i Siwan. Sylwer bod ieithwedd gwleidyddol yn perthyn i Siwan, gwelwn hyn wrth iddi gyfathrebu â amrywiaeth o’r cymeriadau drwy drafod gwleidyddiaeth- nid fel pobl. Cyfeiria Siwan tuag at wleidyddiaeth gyda Alis ar ddechrau’r act gyntaf, gan ddweud, “A’r goron drom ar fy mhen? A’r wisg arian fawr fel pabell o’m cwmpas?” Mae hi’n amlwg yn gaeth i delerau’r goron a’i swyddogaeth fel gwraig Llywelyn. Datgelai Siwan mai gwleidyddiaeth oedd ei hangfau ar adegau, yn sicrhau nad yr oedd hi’n chwalu ei bywyd. Awgrymai Saunders Lewis bod cael etifedd ac llinach gadarn yn bwysig iawn i gymeriad Siwan. Er ei pherthynas gyda Gwilym Brewys, mae Siwan eisiau’r llinach fod yn bur, wrth iddi ddweud wrtho, “Mi hoffwn ddal mab fy mab, etifedd Llywelyn, uwchben y befyddfaen yn goron ar waith fy oes” yn yr ail act. Mae’n amlwg fod Siwan yn credu’n gryf mai rhesymau gwleidyddol yw prif bwrpas priodas, “P’run sy bwysica’, diogelu ffiniau’r deyrnas neu sicrhau mab yn etifedd?”.

Mae’n amlwg fod gan Siwan deimladau gwahanol tuag at Gwilym Brewys o’i gymharu i'r hyn deimlai tuag at Llywelyn. Er iddi geisio newid testun y sgwrs rhyngddi hi a Gwilym drwy drafod gwleidyddiaeth am amser yn ystod yr act gyntaf, gwelwn y ddau yn trafod eu teimladau. “Paid â'm dychryn i heno, Gwilym. Cystal iti ddweud fod Llywelyn yn fy ngharu i fel ti. Canys serch sy’n newid dynion.” Daw Siwan a themâu amlwg arall y ddrama fan hon, sef serch a chariad. Credai Siwan yn gryf bod serch yn dod ac anhrefn yn ei sgil ond er hynny ni allai guddio ei theimladau tuag at Gwilym fawr hirach. Er ei bod hi’n amlwg nad i drafod gwleidyddiaeth y galwodd Gwilym, mae fel pe tai Siwan yn cyfeirio at wleidyddiaeth er mwyn cyfiawnhau ac i amddiffyn ei hun rhag gwneud yr hyn mae hi eisiau, “Gyda thi, mae siarad am wleidyddiaeth yn amddiffynfa i mi” yw ei geiriau. Mae’r gair “heno” yn cael ei ailadrodd droeon gan Siwan sy’n ffordd o bwysleisio’r serch rhyngddi hi a Gwilym. Mae’n amlwg mai’r noson honno sy’n bwysig i Siwan ac fe gaiff y serch ei bwysleisio eto wrth iddi ddatgelu nad ydyw hi’n gwybod sut y bydd hi’n teimlo yfory, “’Wn i ddim eto. Heno, mae ildio’n ddigon. Yfory, pwy wyr? Efallai y'th garaf di yfory. Pan na fydd heno hwyrach ond atgof a hiraeth.”

Ar ddechrau’r ail act, mae Siwan wedi ei chaethiwo gyda cadwyn haearn yn sownd am ei ffer. Unwaith eto, mae hi’n gaeth i elfennau’r goron. Awgrymai Saunders Lewis bod popeth Cymraeg yn gwylltio Siwan ar ddechrau’r ail act, “Mae’r gadwyn yn drom Alis, y ffasiwn Gymreig ar freichled.” Teimla Siwan gwilydd mawr am iddi hi garcharu eraill yn yr un modd, “Mae hi’n brifo fy malchder gymaint na chlywa’ i mo’r boen yn fy nghoes. Mi orchmynnais fy hynan cyn hyn roi dynion yn y carchar.” Mae y cwilydd a deimlai Siwan yn waeth na phoen y cadwyn haearn. Cyfeiriai Siwan at yr unigrwydd mewn carchar ac bod y teimlad o amser araf yn ddigon i yrru rhywun y wallgo, “Mae syllu i lygaid amser yn gychwyn gwallgofrwydd.” Ar ôl iddi glywed am gynllun Llywelyn, mae Siwan yn benderfynnol o glywed yn union beth sydd ar droed. Gan ei bod yn gaeth, ni allai Siwan weld yr hyn sy’n digwydd wrth i Gwilym gael ei grogi. Mae Siwan yn gobeithio y caiff Gwilym farw drwy neidio, ac nid drwy’r ffordd oedd gan Llywelyn mewn golwg. “Mi groesawaf garchar am oes os caiff ef neidio”, yw geiriau Siwan sydd yn pwysleisio’r teimladau sydd ganddi tuag ato sy’n rhoi’r awgrym ei bod hi’n barod i golli rhyddid os gaiff Gwilym neidio. Pan ddaw Llywelyn i'r twr ar ôl marwolaeth Gwilym gwelwn bod Siwan yn ei gasau, “O waerlod uffern fy enaid, fy melltith arnat, Llywelyn”. Roedd rhan ohonni’n gwrthod credu na fyddai Llywelyn yn meiddio lladd Gwilym, ond yn dilyn y weithred, ni ddangosai Siwam unrhywbeth ond casineb tuag at ei gwr.

Yn ystod y drydedd act,dangosai Saunders Lewis fewnwelediad pellach o ran perthynas Siwan a Llywelyn. Unwaith eto, gwleidyddiaeth yw’r hyn a gaiff ei drafod rhwng y ddau gyda Siwan yn helpu Llywelyn gyda sut y mae modd iddo ennill y rhyfel. Mae’n amlwg iawn fod gan Siwan ddealltwriaeth cadarn o’r byd gwleidyddol pan ddatgelai ei chynllun fel gwleidydd er mwyn sicrhau buddugoliaeth. Nid yw Siwan yn maddau i Llywelyn am roi ‘marwolaeth dyhiryn a lleidr pen ffordd’ i Gwilym. “Gorchfygu yw maddau. ‘Faddeuais i ddim i ti”, yw geiriau Siwan. Nid yw Siwan yn ofni dweud yn union yr hyn roedd hi’n ei deimlo tuag at Gwilym wrth Llywelyn, “Ond am iddo ‘ngharu i, am i minnau ildio i'w gariad.” Mae Siwan yn ei gweld hi’n anodd iawn i ddeall pam fod Llywelyn wedi lladd Gwilym ac mae hi’n ymddangos yn ddall i'r syniad ei fod yntau yn ei charu, fel Gwilym, “Yn enw ugain mlynedd o orwedd ynghyd, mae gen i hawl i wybod.” Mae’n amlwg iawn unwaith eto fod diffyg cydnabydiaeth mawr rhwng y ddau yn enwedig pan dywedai Siwan, “Does dim allwedd i galon; Does neb ar y ddaear yma’n deall ei gilydd.” Mae argraff bod elfen o unigrwydd i gymeriad Siwan ac mae modd cydymdeimlo â’i chymeriad. Ni chafodd Siwan ddewis unrhyw benderfyniadau wrth iddi gael ei geni i wleidyddiaeth, a chael ei rhoi i briodi Llywelyn yn ifanc iawn, “F’ arglwydd, rhoddwyd fi iti’n briodi yn ddeg oed a tithau’n dywysog dros dy ddeuddeg ar hugain. Pedair mlynedd wedyn dois fel cwningen i'th wely. Bum wraig a chywely iti ugain mlynedd; rhoddais iti etifedd, rhodais iti ferched.” Nid oedd wedi croesi meddwl Siwan bod modd cael yr ymdeimlad o gariad mewn priodas wrth iddi gredu mai sicrhau etifedd ac gwaith gwleidyddol oedd prif pwrpas priodas.

Mae’r tristwch yng nghymeriad Siwan yn parhau tuag at diwedd y ddrama wrth iddi awgrymu y bydd Llywelyn fyw yn hirach o’i gymharu â hi, “Mae bywyd eto’n gryf ynot ti, a’th awch i adeiladu eto’n rymus. Mae hynny wedi darfod i mi” yw geiriau Siwan. Mae hi’n rhoi’r awgrym cryf bod ei awydd a’r awch i fentro mewn bywyd ddim mor gryf a’r hyn yr oedd unwaith.

Crynodiad o Act 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddechrau Act 1,caiff y ddrama ei seilio yn ystafell wely Siwan a Llywelyn, lle mae Siwan ac Alis yn paratoi ar gyfer i Siwan fynd i’r gwely. Mae hi’n noson Calan Mai, 1230, ac yng nghanol nos. Wrth i Alis, y forwyn, helpu Siwan, y dywysoges, i dynnu ei gwisg a’i choron, mae tôn Siwan yn awgrymu ei bod eisiau i Alis fynd, a'i bod yn disgwyl am rywun neu rywbeth ddigwydd. Mae Siwan yn dweud “’Wyt ti’n aros yn hir?”. Wrth gribo gwallt Siwan, canai Alis gân Ffrengig sy’n cyfeirio at chwedl Trystan ac Esyllt. Stori serch oedd eu stori, gyda’r ddau yn disgyn mewn cariad gyda'i gilydd pan mae Esyllt yn fod i briodi Hywel fab Emyr Llydaw, sy’n arwain at farwolaeth Trystan. Nid yw Siwan yn hapus o gwbl bod Alis yn ei herio wrth ganu’r gân, felly mae hi’n ei tharo ar hyd ei hwyneb. Dywed Alis “Mae ‘ngwefus i’n gwadu lle y trawodd eich modrwy”, sydd hefyd yn symbol o briodas Llywelyn a Siwan yn anafu Alis. Erbyn i Alis fynd, daw cnoc ar y drws. Agorai Siwan y drws i Gwilym Brewys, Arglwydd Aberhonddu. Mae’n amlwg beth mae Gwilym wedi dod i’w ystafell i wneud, ond mae fel bod Siwan yn ceisio atal, er mai hi a ofynnodd iddo ddod. Caiff Siwan ei phortreadu fel dynes wleidyddol iawn yn y rhan yma, sy’n wir. Gwladweinydd oedd Siwan, ac mi roedd wastad yn meddwl yn wleidyddol. Yn hwyrach yn yr Act, mae Gwilym yn rhoi araith bwysig, yn datgan ei gariad tuag at Siwan, ac yn cyfaddef ei fod wedi disgyn mewn cariad gyda Siwan y tro gyntaf iddo ei chyfarfod. Dywed Gwilym yn rhan o’r araith “Roedd fy nghalon yng nghorn fy ngwddw a minnau heb ffun.” Ar ôl yr araith, mae Gwilym yn dal i geisio cael Siwan i gysgu gyda fo, ond eto mae fel bod Siwan yn ceisio dal yn ôl am ryw reswm. Erbyn dod i ddeall, mae Siwan yn ffeindio allan bod Gwilym wedi dweud wrth Hubert de Burgh, Arglwydd arall, ei fod yn ymweld â Siwan. Credai Siwan fod Hubert wedi dweud wrth Llywelyn, wrth iddi glywed cŵn yn cyfarth a sŵn milwyr. Yn sydyn, caiff y drws ei daro ar agor a rhuthrai Llywelyn i mewn i’r ystafell gyda milwyr arfog. Caiff Gwilym ei ddeilio, a dywed Llywelyn ei fod am ei ladd. Ceisiai Siwan ei berswadio i beidio â lladd Gwilym, a dweud wrtho y byddai pob barwn Ffrainc, Lloegr a’r Mers yn ei erbyn. Heria Siwan Llywelyn, wrth iddi ddweud “’Feiddi di mo’i ladd ef”. Mae hyn yn annog Llywelyn hyd yn oed mwy i’w ladd. Ar ddiwedd yr Act, caiff Siwan ei chymered a’i rhoi cloi, oherwydd gorchymyn Llywelyn “Cymerwch hithau a’i chloi yn llofft y tŵr”.



Dyfyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
  • Nid ofni'r gwir, ond ofni, hwyrach ei glywed. (Siwan )
  • Mae syllu i lygad amser
yn gychwyn gwallgofrwydd.
Mewn amser mae amser i bopeth. (Siwan)
  • Does neb erioed â gydymdeimlodd â phoen. (Alis)
  • Seremoni yw byw i deulu brenhinol. (Llywelyn)
  • Mae pawb yn newid, mae hyd yn oed atgofion yn newid. (Llywelyn)
  • Dechrau nabod ei gilydd mae pob gŵr a gwraig, boed bythefnos
neu ugain mlynedd. (Llywelyn)
  • Rhodd enbyd yw bywyd i bawb. (Llywelyn)


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]