Buchedd Garmon

Oddi ar Wicipedia
Buchedd Garmon
Enghraifft o'r canlynoldrama Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Mae Buchedd Garmon yn ddrama radio gan Saunders Lewis, a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1937, yn adrodd hanes ymweliad Garmon, esgob Auxerre â Phrydain yn 429. Yn ei ragymadrodd i'r ddrama mae Saunders yn ei disgrifio fel 'arbrawf mewn vers libre i ddrama siarad naturiol.'

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Saunders Lewis y ddrama wedi i'r rheithgor fethu cytuno ar ddedfryd yn ei brawf cyntaf am losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, tra'r oedd yn aros yr ail brawf yn Llundain. Pan ddarlledwyd y ddrama ar 2 Mawrth 1937, roedd yr awdur eisoes yn y carchar.

Cynllun[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama yn dechrau gyda Illtud a Paulinus yn cyrraedd Auxerre i ofyn i Garmon ddod drosodd i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagiaeth, sy'n cynyddu ym Mhrydain oherwydd dylanwad pregethwr o'r enw Agricola. Cytuna Garmon a Lupus, esgob Troyes, i ddod trosodd. Mae Garmon yn gorchfygu'r Pelagiaid mewn dadl gyhoeddus, ac yn cyflawni gwyrth trwy roi golwg i blentyn dall. Daw'r brenin Emrys Wledig i'w gyfarfod a gofyn am ei gymorth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid sy'n ymosod ar ei deyrnas. Dan arweiniad Garmon, enillir buddugoliaeth trwy i'r Brythoniaid weiddi "Haleliwia" a chodi dychryn arnynt.

Y rhan fwyaf adnabyddus o'r ddrama yw geiriau Emrys Wledig wrth ofyn i Garmon am ei gymorth:

Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad,
i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant,
yn dreftadaeth dragwyddol.
Ac wele'r moch yn rhuthro arni, i'w maeddu.
Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion,
cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch ataf i'r adwy,
Sefwch gyda mi yn y bwlch,
fel y cadwer i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Wasg Aberystwyth yn 1937, gyda'r ddrama-gerdd Mair Fadlen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]