Cymru Fydd (drama)
- Gweler hefyd Cymru Fydd (gwahaniaethu)
Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | Saunders Lewis |
Cyhoeddwr | Llyfrau'r Dryw |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 1967 |
Genre | Drama |
Trasiedi mewn tair act gan Saunders Lewis yw Cymru Fydd, a gyhoeddwyd yn 1967. Drama gomisiwn gan Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Feirionnydd 1967 sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth a chrefydd.[1] Mae'n ymdroi o gwmpas argyfwng seicolegol Dewi, mab i weinidog sy'n fân leidr ac wedi troi ei gefn ar Gristnogaeth a Chymru.
"Gorffennwyd sgrifennu'r ddrama yn gynnar yn 1966," eglura'r dramodydd yn Rhagair y cyhoeddiad; "Y pryd hynny yr oedd rhai digwyddiadau y cyfeirir atynt yn y ddrama eto'n fyw yn y cof".[1]
"Man cychwyn y ddrama oedd darllen mewn papur newydd Saesneg am fam weddw ganol oed a gawsai dri mis o garchar yn gosb greulon am iddi guddio ei hunig fab a oedd wedi dianc o garchar. Trosglwyddais innau'r sefyllfa i amgylchiadau a chymdeithas yr wyf yn perthyn iddynt, a daeth gwahoddiad y Bala yn ei bryd", ychwanegodd Saunders.
Digwydd y ddrama i gyd o fewn pedair awr ar hugain, yng nghartref y teulu.
Dyma'r drydedd o dair drama gan Saunders Lewis sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gydag Excelsior a Problemau Prifysgol yn rhagflaenu. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders, "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylsai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[1]
Mae'r enw yn adlewyrchiad eironig o'r mudiad gwleidyddol gwladgarol Cymru Fydd a weithiai dros hunanlywodraeth i Gymru ar ddiwedd y 19g ac ar droad yr 20g.
Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf ar y 7fed ac 8fed o Awst 1967 gan Gwmni Theatr Cymru.[1] John Ogwen fu'n portreadu'r myfyriwr Dewi a dyma'r cyfle cyntaf iddo actio'n broffesiynol.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Y Parchedig John Rhys
- Dora, ei wraig
- Dewi, eu mab
- Bet Edward
- Y Cwnstabl Jones
- Inspector Evans
- Dau blismon arall
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]Cwmni Theatr Cymru gafodd y fraint o lwyfanu'r ddrama am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1967. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cynorthwydd llwyfan Iola Gregory; is-gynhyrchydd Iona Banks; cynorthwywr Beryl Williams; cast:[2]
- Y Parchedig John Rhys - Conrad Evans
- Dora, ei wraig - Emily Davies
- Dewi, eu mab - John Hughes (myfyriwr oedd John Ogwen ar y pryd ac fe'i cyflwynwyd fel 'John Hughes'.)
- Bet Edward - Lisabeth Miles
- Y Cwnstabl Jones - Peter Gruffydd
- Inspector Evans - Ieuan Rhys Williams
Diolchodd Saunders Lewis i'r actorion, ac i Wilbert Lloyd Roberts, ym 1967:
"Cefais y fantais o ddiwygio'r ddrama hon yn ystod tridiau o baratoi ac ymarfer da yn Y Felinheli gydag actorion a chynhyrchydd y Cwmni Theatr Cymraeg. Y mae Mr Wilbert Lloyd Roberts a phob un o'r actorion wedi helpu i wella rhyw ran o'r dialog neu ddywediad neu frawddeg neu weithred. Dyma'r math o gydweithio sydd wrth fodd calon dramaydd".[1]
Yn ei hunangofiant, Hogyn O Sling, mae John Ogwen yn sôn am y cyfnod ymarfer yn Y Felinheli, a'r cyfle gafodd o i ofyn cwestiwn i Saunders: "Oherwydd bod cymeriad Dewi yn un pur gymhleth yr oeddwn am wybod, ynghanol ei gelwyddau (os celwyddau hefyd) a oedd yn ddidwyll wrth ddweud un araith wrth Bet. Anghofiai i byth mo'r ateb: 'Dim ond rhoi beth mae'r cymeriad yn ei ddweud y bydda i. Chi sydd i benderfynu beth mae'n ei feddwl'. Wnes i ddim gofyn cwestiwn arall".[3]
Ond mae John hefyd yn sôn am sut y bu'n rhaid rhoi terfyn cynnar ar ei berfformiad proffesiynol cyntaf! "Newydd ddechrau'r ail act yr oedd Lisabeth Miles a minnau pan sylwais for tipyn o gynnwrf yn y gynulleidfa.[...] Gan fy mod yn wynebu'r gynulleidfa welwn i mo'r mwg yn codi o'r llenni yn y cefn ond buan iawn y clywais ei oglau. Llanwyd y neuadd â mwg yn sydyn iawn a gorfodwyd ni i adael y llwyfan a phawb o'r gynulleidfa i ymadael.Mewn gwirionedd doedd 'na fawr o dân. Un o'r llenni duon yn y cefn oedd wedi'i lapio'i hun am un o'r lampau ac wedi bod yn mudlosgi trwy'r act gyntaf. Doedd dim posib cario 'mlaen y noson honno [...] Daeth pawb yn ôl am unarddeg fore trannoeth - y gynulleidfa a ninnau! A dyma ddechrau eto o'r ail act. "[3]
Ar ôl wythnos yr Eisteddfod, fe deithiwyd y cynhyrchiad ar y cyd â'r Welsh Theatre Company.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Lewis, Saunders (1991). Cymru Fydd. Gwasg Christopher Davies. ISBN 0 7154 0317 6.
- ↑ 2.0 2.1 "Cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o ddrama newydd Saunders Lewis, Cymru Fydd, yn Eisteddfod y Bala 1967". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2024-08-26.
- ↑ 3.0 3.1 Ogwen, John (1996). Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd. ISBN 9 780860 741343.