Neidio i'r cynnwys

Blodeuwedd (drama)

Oddi ar Wicipedia
Blodeuwedd
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1948
GenreDrama
CymeriadauBlodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes Edit this on Wikidata
Enw brodorolBlodeuwedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama fydryddol bedair act gan Saunders Lewis yw Blodeuwedd (cyhoeddwyd 1948). Ymddangosodd y ddwy act gyntaf yn Y Llenor yn 1923 a 1925 ond ym 1947 y gorffennodd Lewis y gwaith pan ofynnodd Chwaraewyr Garthewin iddo am ddrama i'w hactio.[1] Mae'n seiliedig ar hanes Blodeuwedd fel y'i ceir yn y chwedl Math fab Mathonwy, yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau gan y dewin Gwydion er mwyn trechu tair tynged ei gŵr Llew Llaw Gyffes drwy roi iddo “…enw, ac arfau, a’r wraig ryfeddaf a grëwyd”.[1] Ond daw'r heliwr golygus Gronw Pebr i newid ei byd, a drysu ei holl feddwl a'i theimladau.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cais gan Morris Jones, am ddrama i'w chyflwyno gan Chwaraewyr Garthewin oedd yr hwb a barodd i Saunders Lewis gwblhau'r gwaith ym 1947. Er nad oedd yn berffaith hapus gydag "addasrwydd" y ddrama i gwmni Theatr Garthewin, cytunodd, ond bu cryn drafferth i gastio'r ddrama. Bu'n rhaid aros tan Hydref 1948, er mwyn gweld y llwyfaniad cyntaf ohoni.[2]

Mewn ymateb i gais gan y cyfarwyddwr am gymorth o ran llwyfannu, fe atebodd Saunders mewn llythyr ato drwy ddweud : "Nid wyf yn credu mewn rhoddi llawer o gyfarwyddiadau llwyfan yn yr argraffiad printiedig. Fy meddwl i yw mai gorau po leiaf a geir—tasg i'r cynhyrchydd [cyfarwyddwr] yw gwneud ei gyfarwyddiadau ei hun a dylai fod yn rhydd i wneud fel y dymuna. Dylai'r ddrama fel llyfr gynnwys dim ond y minimwm er mwyn rhoi llaw rydd i'r cynhyrchydd."[2]

Eglurodd Saunders wrth Morris Jones mai gweld Sybil Thorndike yn actio Medea gan Ewripides a roes y syniad o Blodeuwedd iddo.[2]

Cynllun gwisgoedd cynhyrchiad 1948 gan Chwaraewyr Garthewin

Dechreuwyd ymarfer ym mis Mai 1948. Cynlluniodd Morris Jones y gwisgoedd, a bu i Jane Owen eu darlunio, a Lalla Thomas eu creu. Morris fu hefyd yn ngofal cynllunio'r set, gyda Moses Ellis, Nora Lee Jones a Jane Owen yn ei hadeiladu.[2] Morris Jones oedd hefyd yn gyfrifol am yr awgrym o sgrech tylluan ar ddiwedd y ddrama, er i eraill honni yr un modd. Cyfaddefodd Saunders yn ddiweddarach, wedi cyhoeddi'r ddrama, petai'n cael y cyfle i ail-sgwennu'r ddrama y byddai'n dileu sgrech arallfydol y dylluan am ei bod hi'n "llawer rhy theatrig".[2]

Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Gee cyn y perfformiad cyntaf, er bod y sgript a lwyfannwyd ym mis Medi 1948 [sgript a anfonwyd at Morris Jones ddiwedd 1947] yn wahanol i'r testun printiedig.[2] Addaswyd y ddrama mewn argraffiad ar gyfer plant a phobol ifanc yn 2000, gan CBAC.[3]

Darlledwyd rhaglen arbennig am hanes y ddrama a'i chysylltiad â Garthewin ar S4C ar 19 Gorffennaf 1986 o dan yr enw Garthewin a'r Flodeuwedd Gyntaf.[4]

Beirniadaeth

[golygu | golygu cod]

Bu peth beirniadu ar adeiladwaith y ddrama, a rhoddir y bai am hyn yn y saib o ugain mlynedd rhwng creu y ddwy act gyntaf, a'r ddwy act olaf. Nododd Emyr Humphreys "Rhwng yr ail a'r drydedd act o'r ddrama hon y ffurfiwyd y Blaid Genedlaethol, y sefydlwyd Y Ddraig Goch, y gosodwyd seiliau cymdeithaseg Gymraeg newydd, y llosgwyd yr Ysgol Fomio, y danfonwyd y tri i'r carchar, y diswyddwyd y dramodydd a'i droi allan o Brifysgol Cymru, y cychwynnwyd cyfres arwrol Cwrs y Byd yn Y Faner a llu o helyntion eraill, gan gynnwys yr Ail Ryfel Byd."[5] Dadleua Ceri Sherlock bod Saunders wedi dychwelyd at y "campwaith dramatig" yma, "yn ddyn gwahanol, gan ail-afael mewn byd theatr gwahanol".[5]

Er i'r perfformiadau cychwynol yng Ngarthewin fod yn llwyddiant, pan aed â'r ddrama ar daith yn ystod 1949 "nid ymatebodd y gwahanol gynulleidfaoedd â'r un brwdfrydedd" ag a welwyd ym 1948. Dryswch sail hanesyddol a chwedlonol y ddrama oedd un feirniadaeth, ac "anfoesoldeb ac anweddustra" ymysg y gweddill.[2] Mae llawer mwy o droeson trwstan y cynhyrchiad i'w weld yng nghyfrol Hazel Walford Davies, Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gomer 1995).[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1940au -1970au

[golygu | golygu cod]
Cynhyrchiad Garthewin o Blodeuwedd 1948
Hysbyseb yn y Rhos Herald am Blodeuwedd 1949

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Chwaraewyr Garthewin ar 23 Medi 1948. Cyfarwyddwr: Morris Jones; cast:

  • Blodeuwedd - Ellen Wyn Jones
  • Rhagnell - Nora Jones
  • Llew Llaw Gyffes - Edwin Williams
  • Gronw Pebr - Dafydd Jones
  • Gwydion - Raymond Edwards
  • Penteulu - Tom Charles
  • Rhannau eraill - Richard Jones, Gwyn Jones, Jac Jones a Morris Jones.[2]

Er iddo fethu gweld cynhyrchiad Garthewin o Amlyn ac Amig, fe lwyddodd Saunders Lewis i gyrraedd Dyffryn Clwyd, er mwyn gweld Blodeuwedd, a hynny ar y noson agoriadol. Yno hefyd yn adolygu'r ddrama ar gyfer Y Faner, roedd Kate Roberts. Nodwyd bod y "peiriant cynhyrchu trydan" wedi methu am ychydig funudau yn ystod yr Act gyntaf, "a bu bron i Ellen Wyn Jones (Blodeuwedd) grogi Nora Jones (Rhagnell) yn go iawn yn yr ail act wrth rwymo pleth ei gwallt yn rhy dynn o amgylch ei gwddf".[2]

1980au - 2000au

[golygu | golygu cod]
Rhaglen cynhyrchiad 1985 gan Theatrig

Cafwyd addasiad gan Theatrig ym 1985, fel teyrnged i Saunders Lewis. Cyfarwyddwr : Ceri Sherlock; cynllunydd : Simon Banham; cast:

Addaswyd a chyfieithwyd y ddrama ym 1991 gan Siôn Eirian a'i galw'n Woman of Flowers a'i chyflwyno gan yr Actors Touring Company, ac wedyn gan Theatr y Sherman yn Gymraeg ym 1992.

Cafwyd llwyfaniad dadleuol neu "anghonfensiynol" arall o'r ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2002, dan gyfarwyddyd Ian Rowlands; cynllunydd : Rhiannon Matthews; cast:[6]

Poster cynhyrchiad 2002 gan Gwmni Theatr Gwynedd

"Cynhyrchiad anghonfensiynol dros ben" oedd hwn, yn ôl yr adolygydd Dyfrig Jones yn Barn [Hydref 2002] "Amharwyd ddim ar y geiriau eu hunain – neu ddim ddigon i mi sylwi beth bynnag – ond mae hi’n amlwg wrth wylio’r cynhyrchiad fod y cyfarwyddwr wedi ceisio ymbellau cymaint ag y medr oddi wrth y ddelwedd draddodiadol o’r ferch o flodau," ychwanegodd.[7]

Cytuno wnaeth Catrin Jones ar wefan BBC Cymru : "Roedd Blodeuwedd, y ferch o flodau, yn gwisgo dillad lledr tywyll a sgidiau du at ei phenliniau. Amdani hefyd roedd rhwyd ddu, oedd yn cyfleu rhyw fath o sgert, a llinell lachar werdd fel rhyw fath o olau laser yn gloywi'r rhwyd. Dyma chwalu'r ddelwedd draddodiadol o Flodeuwedd yn syth."[8]

2010au i'r presennol

[golygu | golygu cod]
Iddon Jones a Morfydd Clark mewn golygfa o Blodeuwedd yn 2013

Yn 2013, trawsblannwyd y chwedl o’r Oesoedd Canol i gyfnod yr Ail Ryfel Byd gan Theatr Genedlaethol Cymru. Llwyfannwyd y ddrama ar leoliad yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd, o dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd; cynllunydd Carl Davies; sain Dyfan Jones; cast:

Delwedd hysbysebu Theatr Genedlaethol Cymru 2014

Ail-deithwyd y cynhyrchiad o gwmpas theatrau Cymru yn 2014 gyda'r cast canlynol:

"Er mawr siom i rai, ail-gastiwyd rhan Blodeuwedd" nododd yr adolygydd Lowri Haf Cooke, "gan nad oedd Morfydd Clark ar gael [...] Penodwyd actores ei chenhedlaeth yn ei lle, oedd yn benderfyniad gwych; Rhian Blythe, heb os, oedd seren y sioe – taenodd ei hud ar hyd y cynhyrchiad." Yn anffodus, nododd hefyd nad oedd "gronnyn o gemeg rhwng ei Gronw Pebr ef [Rhys Bidder] a Blodeuwedd Rhian Blythe, a fu’n siom i nifer fawr yn Theatr y Sherman."[9]

Ail-lwyfannwyd addasiad Saesneg Siôn Eirian yn 2018 [Woman of Flowers] gan Cwmni Theatr Pena a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Er i Robert O. F. Wynne geisio cyfieithu Blodeuwedd i'r Saesneg ar gyfer ei darlledu ar Radio'r BBC [fel yn achos Amlyn ac Amig] ni chafodd lwyddiant.

Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu gan BBC Cymru ym 1965, a'i darlledu am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 1965. Roedd y cast yn cynnwys Nerys Hughes, Ray Smith, Philip Madoc, Dillwyn Owen, Josephine Price a Stewart Jones. Cafwyd cerddoriaeth gan Alun Hoddinott a'r cyfarwyddydd oedd Emyr Humphreys.[10]

Cynhyrchwyd addasiad ffilm [Blodeuwedd (ffilm 1990)] gan Ffilmiau Bryngwyn ar gyfer S4C a'i darlledu ar 1 Mawrth 1990.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Lewis, Saunders. "Rhagair", Blodeuwedd. Gwasg Gee, tud. 5
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.
  3. Gwefan Waterstones
  4. Daily Mirror - Sadwrn 19 Gorffennaf 1986. Daily Mirror. 1986.
  5. 5.0 5.1 Rhaglen cynhyrchiad Theatrig o Blodeuwedd. 1985.
  6. "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.
  7. "Y fewnfudwraig gan Dyfrig Jones; atodiau theatr bARN cyfrol 477, Hydref 2002". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.
  8. "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-03.
  9. lowrihafcooke (2014-02-23). "Adolygiad Theatr: Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru – 2014)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2025-08-01.
  10. "Cystadleuaeth". The Stage. 22 Ebrill 1965.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.