Garthewin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plasdy Garthewin, ddiwedd y 19eg ganrif

Plasdy ac ystad yng ngogledd Cymru yw Garthewin. Lleolir y plasdy ei hun ger Llanfair Talhaearn yn Sir Conwy. Roedd yn gartref i Wynniaid Melai a Garthewin. Mae ganddo le yn hanes y theatr yn Gymraeg oherwydd cysylltiad y theatr fach sydd yno â Saunders Lewis.

Theatr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd y Chwaraedy (Saesneg: The Playhouse) ei greu trwy ailadeiladu hen ysgubor ger y plasdy (codwyd yn wreiddiol yn 1722). Syniad R.O.F. Wynne oedd hynny. Clough Williams-Ellis (pensaer Portmeirion) oedd y pensaer. Mae'r muriau o gerrig gyda tho llechi a gynhelir gan ddwy fwa sylweddol o waith bric. Ychwanegwyd y llwyfan yn 1937-38.[1] Roedd seddi i ryw gant o gynulleidfa yno. Morris Jones oedd y cyfarwyddwr o 1946 ymlaen.[2]

Perfformwyd sawl un o ddramâu cynnar Saunders Lewis yng Ngarthewin, yn cynnwys Blodeuwedd (cyhoeddwyd 1948). Ymddangosodd y ddwy act gyntaf o'r ddrama honno yn Y Llenor yn 1923 a 1925 ond ym 1947 y gorffennodd Saunders y gwaith pan ofynnodd Chwaraewyr Garthewin iddo am ddrama i'w hactio yn y Chwaraedy.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Chwaraedy Garthewin, Y Theatre Trust.
  2. Frank Price Jones, Crwydro Gorllewin Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1969).
  3. Saunders Lewis, Blodeuwedd. Rhagymadrodd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]