Clough Williams-Ellis

Oddi ar Wicipedia
Clough Williams-Ellis
GanwydBertram Clough Williams-Ellis Edit this on Wikidata
28 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Gayton Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1978 Edit this on Wikidata
Plas Brondanw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpensaer, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
TadJohn Clough Williams-Ellis Edit this on Wikidata
MamEllen Mabel Greaves Edit this on Wikidata
PriodAmabel Williams-Ellis Edit this on Wikidata
PlantSusan Williams-Ellis, Christopher Williams-Ellis, Charlotte Rachel Anwyl Williams-Ellis Edit this on Wikidata
PerthnasauJohn Strachey Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes filwrol, CBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Clawr ei hunangofiant Architect Errant (cyhoeddwyd gyntaf ym 1971)

Pensaer o Gymru oedd Syr Bertram Clough Williams-Ellis (28 Mai 18839 Ebrill 1978). Mae'n enwog am gynllunio'r pentref Eidalaidd Portmeirion ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1971. Honai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion i Owain Gwynedd.[1]

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd Williams-Ellis yn Swydd Northampton, Lloegr. Er iddo gael ei eni yn Lloegr, roedd ei deulu'n dod o Gymru a magwyd ef yng Nglasfryn, Pwllheli ers yn 4 oed. Roedd yn fab i'r parchedig John Clough Williams-Ellis (1833-1913) dringwr mynyddoedd nodedig iawn a'i fam oedd Ellen Mabel Greaves (1851-1941), merch perchennog chwareli llechi John Whitehead Greaves a chwaer John Ernest Greaves.[2]

Ym 1915 priododd ag Amabel Strachey a chawson nhw 3 o blant. Lladdwyd un mab, sef Christopher Moelwyn Strachey Williams-Ellis (1923-13 Mawrth 1944), yn yr Ail Ryfel Byd. Merch hynaf iddynt oedd Susan Williams-Ellis a sefydlodd waith crochenwaith yn 1961, gan ddefnyddio'r enw 'Portmeirion' ar y cynnyrch. Mae'r cerflunydd David Williams-Ellis yn or-nai i Clough Williams-Ellis ac wyr iddo yw'r llenor Robin Llywelyn. Gor-wyres iddo yw'r cynllunydd ffasiwn Rose Fulbright-Vickers.

Addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i addysgwyd yng Ngholeg (Oundle School) yn Swydd Northampton ac yna Coleg y Drindod, Caergrawnt, ond ni dderbyniodd radd. Trodd i'r Ysgol y Sefydliad Pensaernïaeth (Architectural Association School of Architecture), Llundain lle astudiodd rhwng 1903–04.

Tra'n fyfyriwr cafodd gomisiwn: tŷ haf "Larkbeare" ar gyfer Anne Wynne Thackeray a Mary Venables yn Cumnor, Swydd Rydychen, 1903-4 ac a orffennwyd yn 1907.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd practis preifat ganddo o 1905 hyd 1914 ac ar ôl y Rhyfel y Byd Cyntaf o 1919 i 1978.

Yn ystod y Rhyfel y Byd Cyntaf roedd yn y Gwarchodlu Cymreig ac enillodd y Groes Filitaraidd.

Etifeddodd dŷ ei gyndadau, Plas Brondanw ger Llanfrothen ym Meirionnydd ym 1908 a phentref Portmeirion yn ystod y cyfnodau 1926-1939 a 1954-1972. Golygodd adeiladu Portmeirion gyflawni breuddwyd mawr iddo. Dangosodd i'r bobl bod datblygiad safle naturiol yn bosib heb ddinistrio'r amgylchedd a harddwch yr ardal.

Roedd Williams-Ellis yn un o gymrodorion y British Eugenics Society, cymdeithas o bobl a oedd yn credu y dylai 'dosbarth gweithiol gwrthyn ac annymunol (Saesneg: lower class undesirables) gael eu hatal rhag medru cenhedlu.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]