John Clough Williams-Ellis
| John Clough Williams-Ellis | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Mawrth 1833 Bangor |
| Bu farw | 27 Mai 1913 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | clerig, bardd |
| Mam | Harriet Ellen Clough |
| Priod | Ellen Mabel Greaves |
| Plant | Clough Williams-Ellis, Martyn Ivor Williams-Ellis, Rupert Greaves Williams-Ellis |
Clerigwr a bardd o Gymru oedd John Clough Williams-Ellis (11 Mawrth 1833 - 27 Mai 1913).
Cafodd ei eni ym Mangor yn 1833 yn an ail fab i Harriet Ellen Clough o Ddinbych (gw. Rhisiart Clwch, Plas Clough a Bachegraig), a John Williams-Ellis, offeiriad. Magwyd ef ym Mrondanw, Llanfrothen, Gwynedd cyn symud oherwydd gwaith ei dad i Glasfryn, Llangybi. Mae'n nodedig am fod yn ysgolhaig, yn fardd ac yn llenor a hefyd am fod y Cymro cyntaf i esgyn un o fynyddoedd uchaf yr Alpau.
Addysgwyd ef yn Rossall ac yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt. lle graddiodd a'i ethol yn gymrawd o'r coleg yn 1856. Pan aeth Cadair Mecaneg Caergrawnt fe'i cefnogwyd gan enwogion y maes ond rhoddwyd y gadair i berson arall, oherwydd dylanwad un o'r colegau mawr. Trodd i faes yr eglwys, a derbyniodd ficeriaeth Madingley, yn ne Swydd Gaergrawnt, yn 1865 cyn symud i Gayton, Swyddr Northampton yn 1876. Ymddeolodd i'w ystâd yn y Glasfryn yn 1888 a phenodwyd ef yn ynad heddwch yn 1890.
Cafodd John a Harriet blentyn o'r enw Bertram Clough Williams-Ellis sef y pensaer enwog.