Crochenwaith

Oddi ar Wicipedia
Cynhyrchu crochenwaith ar olwyn

Crochenwaith yw pethau a wneir o glai arbennig sy'n cael ei grasu mewn ciln i'w galedu. Gellir defnyddio'r dechneg yma i wneud pob math o bethau. Mae natur y crochenwaith yn amrywio yn ôl y math ar glai a ddefnyddir, ac felly yn aml mae gan adral arbennig ei math nodweddiadol ei hun o grochenwaith.

Yn wreiddiol, llunid ffurf yr eitem oedd i'w gynhyrchu o'r clai â llaw yn unig. Yn ddiweddarac h, dalblygodd y defnydd o olwyn crochennydd. Yr eitemau crochenwaith cynharaf y gwyddir amdanynt yw ffigyrau dynoil bychain sy'n dyddio o tua 29,000–25,000 CC. Yr enghreifftiau cynharaf o lestri crochenwaith yw rhai sydd wedi eu darganfod yn Japan tua 10,500 CC. Ymddengys fod y dulliau o gynhyrchu crochenwaith wedi eu darganfod yn annibynnol mewn sawl rhan o'r byd.

Dyfeisiwyd olwyn y crochennydd ym Mesopotamia rhwng 6,000 a 4,000 CC. Roedd hyn yn golygu fod modd cynhyrchu llawr mwy o grochenwaith.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]