Ysgubor

Oddi ar Wicipedia
Ysgubor Gymreig draddodiadol ger Pontfadog, Dyffryn Ceiriog.

Adeilad amaethyddol yw ysgubor a ddefnyddir i storio grawn, gwair, gwellt ac ati yn glyd dan do er mwyn eu diogelu rhag yr elfennau. Yn draddodiadol, cerrig a ddefnyddid i adeiladu ysguboriau, ond erbyn hyn mae ysguboriau metel yn gyffredin hefyd. Mewn rhai gwledydd pren yw'r deunydd arferol.

Mae 'ysgubor' yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. yn enw pentref Ysgubor-y-coed, Ceredigion.

Roedd yn arfer perfformio anterliwtiau mewn ysguborau weithiau yn y 18g.

Ar lafar yng ngogledd-orllewin Cymru mae "sgubor" yn ymadrodd am ddynes flêr, e.e. "hen sgubor o ddynes".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O.H. Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (Rhydychen, 1913), tud. 488.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.