Anterliwt

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Math o ddrama fydryddol boblogaidd a oedd ar ei hanterth yn ail hanner y 18g yw'r anterliwt (neu anterliwt). Daw'r enw o'r gair Saesneg interlude (sy'n tarddu o'r arfer o berfformio darnau dramataidd byr er diddanu'r dorf rhwng actau hir y dramâu miragl canoloesol). Roedd yn ffurf a ddatblygodd yn bennaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn arbennig yn siroedd Dinbych a Fflint. Fe'i chwaraeid mewn ffeiriau, yn y dafarn neu ar fuarth fferm i ddiddanu'r werin.

Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair 'anterliwt' yng ngeiriadur y bardd Wiliam Llŷn (1534/5-1580), ond nid oes llawer o dystiolaeth uniongyrchol am anterliwtiau Cymraeg yn yr 16g a'r 17g. Daeth yn amlwg yn y 18g ac mae pob un o'r 44 anterliwt sydd wedi goroesi yn perthyn i'r ganrif honno a blynyddoedd cynnar y ganrif olynol.

Twm o'r Nant (1739-1810), y mwyaf o'r anterliwtwyr

Ar y gororau y datblygodd yr anterliwt, ac mae'n amlwg fod dylanwad Seisnig arni, ond tyfodd i fod yn ffurf lenyddol gwbl Gymreig a Chymraeg. Gellid ei disgrifio fel math o ymddiddan ar gân neu ddrama foesol yn hytrach na drama reolaidd gyda phlot a symudiad yn ôl rheolau Aristotlys. Mae ganddi berthynas agos â'r ffars ganoloesol yn ogystal, gydag elfen o faswedd diniwed a rhialtwch. Teipiau haniaethol fel Y Cybydd, Cariad, Rhagrith ac ati, neu gymeriadau stoc o fywyd bob dydd, fel yr Hwsmon neu'r Gŵr Bonheddig, yw'r cymeriadau. Arferid chwarae anterliwtiau ple bynnag y ceid llwyfan addas a digon o bobl i wrando (a thalu), er enghraifft mewn ffeiriau, neithiorau cefn gwlad, tafarnau, buarth fferm. Defnyddid gwagenni i'r llwyfan a byddai'r actorion yn gwisgo yn yr ysgubor neu stafell yng nghefn y dafarn. Roedd miwsig a dawns yn rhan hanfodol o'r difyrrwch yn ogystal, a byddai yno grwth a chrythor ac efallai pibydd hefyd. Byddai rhywrai ar ran y cwmni yn casglu arian ar ôl y perfformiad ac fel rheol gwerthid copïau o'r anterliwt yn ogystal.

Mae'r anterliwtwyr mawr yn cynnwys Twm o'r Nant (8 anterliwt), y pwysicaf o lawer, Jonathan Huws o Langollen, Elis Roberts (Elis y Cowper), Dafydd Jones o Drefriw, Huw Jones o Langwm, Siôn Cadwaladr o'r Bala a William Roberts, clochydd Nanmor ac eraill. Beirdd gwlad oedd nifer o'r rhain, neu fân grefftwyr.

Bu farw'r anterliwt pan drodd Cymru ei chefn ar yr hen arferion poblogaidd dan ddylanwad yr enwadau anghydffurfiol ar ddechrau'r 19g.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Glyn M. Ashton (gol.), Hunangofiant a Llythyrau Twm o'r Nant (Caerdydd, 1948)
  • eto, Anterliwtiau Twm o'r Nant (Caerdydd, 1964)
  • E. Wyn James, 'Rhai Methodistiaid a’r Anterliwt: John Hughes, Pontrobert, Twm o’r Nant ac Ann Griffiths', Taliesin, Hydref 1986 [1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]