Neidio i'r cynnwys

Siôn Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Siôn Cadwaladr
Ganwyd18 g Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1760 Edit this on Wikidata

Baledwr ac anterliwtiwr o Feirionnydd yn y 18g oedd Siôn Cadwaladr neu John Cadwaladr (fl. 1760).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ychydig o ffeithiau sydd gennym ni am ei fywyd personol. Cafodd ei eni ym mhlwyf Llanycil, ger y Bala, yn chwarter cyntaf y 18g. Yn llanc ifanc, cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o alltudiaeth yn y wladfa Brydeinig yng Ngogledd America (rhan o Unol Daleithiau America heddiw) am ladrata hanner coron.

Ar ôl dychwelyd i Gymru dechreuodd ar yrfa fel baledwr crwydrol yng ngogledd Cymru. Ysgrifennodd sawl anterliwt hefyd, ac am yr rhain yn hytrach na'i gerddi y cofir amdano heddiw. Cedwir dwy mewn llawysgrif, sef Einion a Gwenllian (tua 1756) a Gaulove a Clarinda (tua 1756 - 1762?). Ysgrifennodd y drydedd, Dafydd a Gwraig Urias, ar y cyd â Huw Jones o Langwm. Chwedl werin Gymraeg am Einion ap Gwalchmai yw sail Einion a Gwenllian a'r brenin Beiblaidd Dafydd yw arwr Dafydd a Gwraig Urias.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Siôn Cadwaladr a Huw Jones, Dafydd a Gwraig Urias (c. 1765). Yr unig un o anterliwtiau Siôn a gyhoeddwyd.