Crwth

Oddi ar Wicipedia
Crythor yn chwarae'r crwth. Beibl Siarl Foel, 9fed ganrif. Dyma'r llun cyntaf o'r crwth ac mae'r gwreiddiol i'w weld yn y Bibliothèque Nationale, Paris.

Hen offeryn cerdd llinynno ydy'r crwth, (Lladin Llafar: chrotha; Gaeleg: cruit; Saesneg: crwth neu crowd; Almaeneg: chrotta, hrotta). Mae'n eithaf tebyg i'r ffidil (neu'r fiolin), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei ganu'n wreiddiol drwy blycio ac yn ddiweddarach gyda bwa ac mae ganddo ffrâm betryal, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng Nghyfreithiau Hywel Dda yn y 12g.[1] Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn.

Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn Eisteddfod yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176, lle urddwyd deunaw crythor. Ceir cywydd gan Rhys Goch Eryri, tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r saer wella, a'r crythau'n haws eu prynu, gwelir bod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb. yn y 18g fe'i ystyriwyd yn un o offerynnau cenedlaethol Cymru (gyda'r delyn a'r pibgorn).[2]

Mae'r crwth yn esblygiad ar y lyra (math o delyn fechan) wrth iddi ddatblygu.

Tarddiad y gair[golygu | golygu cod]

Daw'r gair o'r hen Frythoneg am "fol crwm, beichiog" ("croto"): yr un yw tarddiad "croth" mae'n debyg.[3] Mae'n debygol i gefn y crwth fod ar un adeg yn grwm fel bol merch feichiog a'r mandolin. Defnyddir y gair "crwth" yn Saesneg hefyd, fel benthyciad o'r Gymraeg, ac mae'n un o lond dwrn o eiriau yn yr iaith sydd heb lafariad. Daw'r cyfenwau "Crowder" a "Crowther" o'r gair crythor.

Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.
Crwth y Llyfrgell Genedlaethol; delwedd drwy ganiatâd.
Crwth Amgueddfa a Galeri Warrington; delwedd drwy ganiatâd.

Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeisiwyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19g.

Y Crwth yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Crwth o'r 18fed ganrif

Goroesodd pedwar crwth:

  1. Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan: Crwth y Foelas. Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth, Sir Gaernarfon
  2. Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Owain Tudur, Dolgellau o'r 19g[4]
  3. Crwth Aberystwyth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  4. Crwth Warrington: fe'i cedwir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. Mae hwn mewn cyflwr salach na'r tri arall, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.[5]
Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.

Cyfeiriadau llenyddol[golygu | golygu cod]

Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489):

Pob ddau y glêr a ddeuyn',
pob dri fry i dŷ pob dyn;
wrth y drws un â'i grwth drwg,
a baw arall â'i berrwg.[6]

Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16g a'r 17g, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw:

Y crwth hwn, croyw a thyner
Y gwnâi ei was pynciau pêr
Ac weithian mewn cwynfan cawdd
Y felysgerdd a floesgawdd.[7]

Canodd y bardd Gruffudd ap Dafydd ap Hywel yntau:

Prenal teg a Gwregis
Pont a brau, punt yw ei bris
A thalaith ar waith olwyn
A Bwa ar draws byr drwyn
Ac ar ganol mae dolen
A gwar hwn megis gwr hen
Ar ei frest cywir frig
O'r masarn fe geir miwsig,
Chwe ysbigod os codwn
A dyna holl dannau hwn
Chwe thant a gaed o fantais
Ac yn llaw yn gan llais
Tant i bob bys ysbys oedd
A dau dant i'r fawd ydoedd.

Ceir sawl chwedl werin am y 'Crythor Du' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'. Ceir chwedl arall am 'Y Crythor Du a'r Bleiddiaid' ble mae'r crythor yn dianc am ei fywyd gyda phac o fleiddiaid wrth ei sodlau, ond mae'n llwyddo i ddianc drwy eu hypnoteiddio gyda'i grwth, tawel, araf. Ceir hefyd Ogof y Crythor Du ger Cricieth ble cyfansoddwyd y dôn Ffarwél Ned Puw yn ôl llafar gwlad.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Cass Meurig, yn canu crwth.

Mae dau arbenigwr heddiw: Bob Evans o Gaerdydd a Cass Meurig o Gwm-y-Glo, Caernarfon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth Archifwyd 2013-12-31 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 18/04/2013
  2. Tarian y Gweithiwr; 12 Tachwedd 1885; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Mai 2013.
  3. [1] Archifwyd 2009-06-18 yn y Peiriant Wayback. Matasovic: Etymological lexicon of Proto-Celtic
  4. Delwedd o grwth Owain Tudur, Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd
  5. Gwefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington; adalwyd 19 Mai 2013
  6. Gwaith Lewys Glyn Cothi, 63.25-8.
  7. Traddodiad Cerdd Dant ym Môn.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
  • Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
  • Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]