Llanfihangel Bachellaeth
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.881°N 4.52°W ![]() |
![]() | |
Plwyf eglwysig yng Ngwynedd yw Llanfihangel Bachellaeth yng nghymuned Buan, Ynys Môn. Fe'i lleolir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanbedrog ac mae'n rhan o reithoriaeth Llanbedrog.
Yn yr Oesoedd Canol bu Llanfihangel Bachellaeth yn rhan o gwmwd Cafflogion yng nghantref Llŷn.
Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Mihangel. Cyfeiria'r yr enw 'Bachellaeth' at safle hen blasdy yn y gymdogaeth, i gyfeiriad Madryn, yn ôl yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd).[1] Ceir sawl Llanfihangel yng Nghymru ac fel rheol ceir enw arall wedi'i atodi er mwyn gwahaniaethu; ond dyma'r unig Llanfihangel yn Llŷn. Mae eglwys y plwyf yn cael ei ddefnyddio fel stiwdio artist erbyn hyn (2010).
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Am restr gynhwysfawr o lefydd o'r enw 'Llanfihangel', gweler yma.
- Ar Ynys Môn, ceir:
- Mihangel
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ D. T. Davies (gol.), Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn (Pwllheli, 1910), tud. 120.