Llanfihangel Dinsilwy
Jump to navigation
Jump to search
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn oedd Llanfihangel Dinsilwy. Mae'n gorwedd ar yr arfordir yn ne-ddwyrain yr ynys i'r gogledd o Llanddona.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Cyfeiria 'Dinsilwy' at dreflan ganoloesol Dinsilwy a enwyd ar ôl yr hen gaer o'r un enw, a adnabyddir heddiw fel 'Bwrdd Arthur'. Ystyr yr enw yw "caer llwyth Sylwy".[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.