Dindaethwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn nwyrain Môn.

Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Thraeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt dwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.

Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12g, sef Priordy Penmon.

Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmwd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (din 'caer neu amddiffynfa' + Daethwy). Ceir yr amrywiadau Tindaethwy a Tyndaethwy hefyd. Llwyth Celtaidd lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle Porthaethwy yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa Dinas, plwyf Llandysilio, fu canolfan y llwyth.

Ymddengys fod y gair Dindaethwy yn enw Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn.

Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Dindaethwy yn cynnwys y plwyfi eglwysig canlynol:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)