Penmon
Priordy gerllaw'r pentref | |
| Math | pentref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llangoed |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Afon Menai |
| Cyfesurynnau | 53.3058°N 4.0567°W |
| Cod OS | SH623802 |
| Cod post | LL58 |
| Etholaeth y Senedd | Bangor Conwy Môn |
| Etholaeth y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Llecyn a phlwyf eglwysig ar gongl de-ddwyreiniol Ynys Môn yw Penmon (Pen 'terfyn, diwedd' + Môn). Mae'n gorwedd i'r gogledd o Fiwmares ac i'r dwyrain o blwyf Llangoed. Mae ei arfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Afon Menai. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Mae'n rhan o gymuned Llangoed a Phenmon.
Mae'r ardal yn cynnwys Priordy Penmon, Castell Aberlleiniog, a chymunedau bychain Trecastell ac Aberlleiniog. Trwyn Du yw enw'r penrhyn ar bwynt eithaf Penmon. Ceir goleudy, maes parcio a chaffi yno a chyferbyn mae Ynys Seiriol, gynt yn eiddo i briordy Penmon.
Mae yma fynachdy o'r 6g (Priordy Penmon) a gafodd ei ail-adeiladu wedyn yn y 12g. Mae dwy groes Geltaidd yn dyddio o tua'r 10g, oedd yn arfer sefyll y tu allan i'r mynachdy, yn awr i mewn yn yr eglwys.
Yn Oes y Tywysogion gorweddai Penmon yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr.
Ger priordy Penmon ceir colomendy i ddal bron i fil o nythod a deiladwyd yn 1600.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]- Yr abaty ar y chwith a'r colomendy ar y dde
- Yr abaty ar y dde, eglwys ar y chwith. Llun o gyfeiriad y de
- Golygfa o'r eglwys (dde) a'r hen fynachdy (chwith)
- Ffenest liw yr egwlys
- Y Groes Geltaidd yn yr eglwys
- Y tu fewn i'r eglwys
- Un o'r chwarel ym Mhenmon
- Ffynnon Seiriol, Penmon
- Traeth Aberlleiniog ar lan Afon Menai
- Y goleudy
