Castell Aberlleiniog
| Math | castell, safle archaeolegol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llangoed |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 27.7 metr |
| Gerllaw | Afon Menai, Afon Lleiniog |
| Cyfesurynnau | 53.2926°N 4.07727°W |
![]() | |
| Perchnogaeth | Hugh d'Avranches |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | AN020 |
Castell mwnt a beili Normanaidd ym Mhenmon, Môn, oedd Castell Aberlleiniog cyn ei ailgodi o garreg. Mae'n gorwedd ar ben bryn coediog isel hanner milltir o lan Afon Menai ac yn gwarchod y fynedfa iddi o'r dwyrain. Llifa Afon Lleiniog heibio i'r castell.
Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd y castell gan Huw Flaidd, Iarll Caer, yn y flwyddyn 1080 i 1099 fel rhan o ymgais Normaniaid Caer i oresgyn teyrnas Gwynedd.[1] Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan o Ddulyn yn 1094 casglodd fyddin yn Nefyn ac yna hwyliodd i Benmon ac ymosododd ar y castell yn llwyddiannus. Amddiffynnwyd y castell gan 80 o farchogion ac 14 ysgwier ifainc. Cipiwyd y castell a'i losgi a lladdwyd nifer o'r amddiffynwyr. Cofnodir y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.[2]
Yn ddiweddarach, rywbryd cyn canol yr 16g, codwyd castell cerrig ar y safle. Does fawr dim o'r castell mwnt a beili gwreiddiol ar ôl am fod y castell diweddarach yn gorchuddio'r safle. Mae hanes yr ail gastell yn dipyn o ddirgelwch. Yn fwy na thebyg mae'n perthyn i ddiwedd yr Oesoedd Canol neu ddechrau cyfnod y Tuduriaid.
Archaeoleg
[golygu | golygu cod]Yn 2007 cafwyd ymchwiliad archaeolegol ar y safle. Mae muriau'r castell diweddarach wedi cael ei ailadeiladu ar y sylfeini gwreiddiol a'r castell diweddar hwn sydd i'w weld ar ben y bryn heddiw yn hytrach na'r castell canoloesol cyntaf.
