Nefyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nefyn
Penrhyn Nefyn - geograph.org.uk - 231514.jpg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPorth Madryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.935°N 4.525°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000092 Edit this on Wikidata
Cod OSSH304405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Nefyn, sydd â phoblogaeth o tua 2,500. Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern.

Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Nefyn a Morfa Nefyn o'r dwyrain

Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Llŷn. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar ôl siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed yn Fwrdeisdref Rydd.

Nefyn tua 1885.

Mae'r môr wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae "penwaig Nefyn" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth £4,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal.

Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r môr. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus.

Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar ôl y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn.

20fed ganrif ymlaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Tirlithriad yn Nefyn yn 2021; gwelir corn simne tŷ ar ben y clogwyn

Ar 19 Gorffennaf 1984, Nefyn oedd canolbwynt daeargryn yn mesur 5.4 ar raddfa Richter. Hwn oedd y dirgryniad cryfaf a gofnodwyd ar dir mawr ynys Prydain ers i gofnodion ddechrau, ond ni chafwyd llawer o ddifrod.

Ar 19 Ebrill 2021, cafwyd tirlithriad gyda darn sylweddol o'r glogwyn yn cwympo i'r môr. Collwyd y tir o waelod tai haf ar Rhodfa'r Môr, ond ni anafwyd unrhyw unigolyn.[3]

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tîm pêl-droed yn Nefyn o'r enw Clwb Pêl-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna dîm wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r tîm yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'.

Mae gan y tîm dudalen Facebook.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nefyn (pob oed) (2,602)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nefyn) (1,863)
  
74.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nefyn) (1813)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nefyn) (473)
  
39.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. 'Tirlithriad mawr' yn Nefyn: Annog pobl i gadw draw , BBC Cymru Fyw, 19 Ebrill 2021.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: