Porthdinllaen
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.9429°N 4.568°W ![]() |
Cod OS |
SH276416 ![]() |
Cod post |
LL53 ![]() |
![]() | |
Mae Porthdinllaen ( ynganiad ) (Cyfeirnod OS: SH2741) yn bentre bychan, agos at Forfa Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano ers 1994. Gweler oddi yno olygfeydd o'r Eifl ac Eryri. Mae'r dafarn "Tŷ Coch" yn ganolfan i'r pentre. Mae'r enw i'w ganfod gyntaf yn 1263: Portdinllaen. Porth ydy porthladd, din ydy'r gaer ar y pentir a elwir Trwyn Porth Dinllaen ac ystyr "llaen" ydy "Llŷn".
Rhaid i ymwelwyr gerdded ato dros y traeth o Forfa Nefyn, neu dros dir y clwb golff ar y pentir, gan fod ceir wedi'u gwahardd.
Mae'r pentre'n hen borthladd pysgota, sydd ar y pen gorllewinol o'r bae 1.25 milltir llydan, a chyda 100 erw o angorfeydd diogel. Roedd y lle'n fwrlwm o longau sgota mor diweddar â'r 19g.[1]
Awgrymyd Porthdinllaen fel porth i longau i'r Iwerddon yn gynnar y 19ed ganrif, ond dewiswyd Caergybi yn ei le.
Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]
Y pentref o gyfeiriad Morfa Nefyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dictionary of Place-names of Wales, Gwasg Gomer