Bryncir

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bryncir
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.979297°N 4.263598°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae Bryncir ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd (cyfeiriad grid SH4812044837). Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]


Bryncir

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6g gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda chanolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan. Daw enw'r pentref o blasty Bryncir, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain wrth geg Cwm Pennant. Pan adeiladwyd y rheilffordd, mynnodd Mr Huddart, perchennog ystâd Bryncir ar y pryd, y byddai gorsaf yn cael ei chodi mor agos ag oedd yn bosibl i'w blasty.

Cafwyd damwain ddrwg ar y rheilffordd ger Gorsaf reilffordd Bryncir cyn iddi agor yn swyddogol ym 1866.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd y cyflwynydd teledu a radio Gerallt Pennant (g. 1960, Bangor) yn Nerwyn Fechan ym Mryncir.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN 0-11-701574-1

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014