Gerallt Pennant
Gerallt Pennant | |
---|---|
Gerallt Pennant ar raglen deledu Ffermio yn 2004 | |
Ganwyd | 22 Ionawr 1960 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio |
Cyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Gerallt Pennant (ganwyd 22 Ionawr 1960).[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganwyd Pennant ym Mangor, ond magwyd ar fferm Derwin Bach, Bryncir, Eifionydd. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, a graddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n byw ym Mhorthmadog ers 1997.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Wedi graddio, fe weithiodd fel athro ysgol gynradd am ddwy flynedd. Yng nghanol yr 1980au, ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ar raglenni teledu plant. Aeth yn ei flaen i gynhyrchu rhaglenni garddio, a'r rhaglen Ar y Tir o Fangor.
Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Ffermio rhwng 1997 a 2005 a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen hynod o boblogaidd ar S4C sef Clwb Garddio. Cafodd y cyfle hefyd i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfres deledu Iolo Williams, sef Crwydro ar S4C.
Mae Gerallt yn parhau i gyflwyno rhaglen radio boblogaidd am fyd natur, Galwad Cynnar ar Radio Cymru bob bore Sadwrn.
Ers 2007, mae'n ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7 ac yna Heno ar S4C.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Cyfarchiad Pen-blwydd i Gerallt Pennant, Wedi 7, 22 Ionawr 2010
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]