Cyflwynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Person neu gorff sy'n gyfrifol am redeg digwyddiad ydy cyflwynydd, neu gwestai. Gall amgueddfa neu brifysgol er enghraifft, fod yn gyflwynydd neu'n westai i arddangosfa. Mae meistr seremonïau (Saesneg: master of ceremonies, MC, emcee neu westai) yn berson sy'n cyflwyno neu'n westai sioe.[1] Ym myd ffilmiau, y cyflwynydd yw'r cynhyrchydd gweithredol, a gaiff y credyd am gyflwyno ffilm i gynulleidfa ehangach.

Cyflwynydd teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Person sy'n cyflwyno neu'n gwesteio rhaglen deledu ydy cyflwynydd teledu. Mae'n gyffredin i enwogion o nifer o faesi gymryd y rôl hwn erbyn heddiw, ond mae nifer o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o gyflwyno yn unig, yn enwedig ym myd teledu plant.

Cyflwynydd radio[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fras, mae cyflwynydd radio yn gwneud yr un swydd a chyflwynwyr teledu ond eu bod yn cyflwyno rhaglenni radio yn hytrach na theledu.

Cyflwynydd chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Math o newyddiadurwr ar y teledu neu/a'r radio ydy sylwebydd chwraeon (a adnabyddir hefyd fel cyflwynydd chwaraeon, cyhoeddwr chwaraeon neu darlledwr chwaraeon), sy'n arbennigo mewn adrodd neu sylwebu ar ddigwyddiadau chwaraeon. Gwneir hyn yn aml yn fyw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cyflwynydd
yn Wiciadur.