Ysgol Gynradd Garndolbenmaen

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gynradd Garndolbenmaen
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Richard Derwyn Jones
Lleoliad Garndolbenmaen, Gwynedd, Cymru, LL51 9SZ
AALl Cyngor Gwynedd
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Lliwiau      Glas tywyll a      Glas golau

Ysgol gynradd Gymraeg ydy Ysgol Gynradd Garndolbenmaen. Lleolir yr ysgol ym mhentref Garndolbenmaen, tua saith milltir i'r gogledd o Borthmadog, Gwynedd. Wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol (tua 11 oed), bydd disgyblion yr ysgol fel arfer yn mynychu Ysgol Eifionydd, Porthmadog ond bydd rhai ohonynt (sy'n byw i'r gogledd o Bant Glas fel rheol) yn mynychu Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes.

Mae tua 50 o ddisgyblion yn yr ysgol,[1] mae nifer yn teithio yno o bentrefi cyfagos megis Pant Glas, Bryncir, Cwm Pennant a Golan. Mae'r nifer yma wedi aros yn gyson am o leiaf ugain mlynedd.

Mae rhai o'i chyn-ddisgyblion yn cynnwys y cyflwynwr Gerallt Pennant a Pedr Fardd. Pennaeth cyntaf yr ysgol oedd y cerddor a botanegydd John Lloyd Williams.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.